Menu

Cynorthwyydd Dysgu Swydd Lefel 2 - Ysgol Gymraeg Ifor Hael

Job details
Posting date: 04 June 2026
Salary: Not specified
Additional salary information: Gradd 3 PCG 5 - 6 £25,583 - £ 25,989
Hours: Full time
Closing date: 12 June 2026
Location: Newport, Newport, NP20 7DU
Remote working: On-site only
Company: eTeach UK Limited
Job type: Contract
Job reference: 1558011

Apply for this job

Summary

Rhif swydd.EDSCH01379.9 - Cynorthwyydd Dysgu Swydd Lefel 2 - Ysgol Gymraeg Ifor Hael
Dechrau: Mis Medi 2026
Llawn amser, tan ddiwedd y flwyddyn ysgol yn y lle cyntaf
Mae Ysgol Gymraeg Ifor Hael am apwyntio Cynorthwyydd Dysgu ar gyfer swydd dros dro am flwyddyn, i ddechrau ym mis Medi
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig, ymroddedig, hyblyg â’r cymwysterau i fod yn aelod allweddol o'n tîm. Bydd y rôl yn cynnwys gweithio o dan gyfarwyddyd y staff addysgu ac aelodau'r Uwch Dîm Rheoli er mwyn cynorthwyo athrawon, a chefnogi a diogelu disgyblion drwy’r ysgol.
Fe fydd yr ymgeiswyr yn medru siarad, darllen ac ysgrifennu’r iaith Gymraeg yn rhugl ac o safon uchel, ac yn ddelfrydol yn meddu ar gymhwyster mewn gofal plant a phrofiad o weithio gyda phlant.
Gwerthfawrogir manylion am ddatblygiad proffesiynol ac unrhyw fanylion o weithio gyda phlant ag anghenion ychwanegol neu ar draws ystod oedran ysgol gynradd.
Cynigir y swyddi ar sail 32.5 awr yr wythnos, yn gweithio yn ystod tymor ysgol yn unig.
Am ragor o wybodaeth am y swydd cysylltwch â Mrs Clare Hoey, Pennaeth.Dylai ymgeiswyr nodi y bydd yn angenrheidiol i'r ymgeiswyr llwyddiannus gael gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
(This is an advertisement for Teaching Assistant – Level 2 within a Welsh Medium Primary school for which the ability to work through the medium of Welsh and English is essential)
MAE’R SWYDD HON YN GOFYN I CHI FOD WEDI COFRESTRU Â’R EWC
Rydym yn croesawu ceisiadau ar gyfer ein holl swyddi yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn ymrwymedig i weithio tuag at gael gweithlu sy’n fwy cynrychioliadol o’r boblogaeth yr ydym yn ei gwasanaethu ac yn arbennig fe groesewir ceisiadau gan bobl o gymunedau lleiafrifoedd ethnig a gynrychiolir (neu sy’n byw) yn y ddinas. Caiff penodiad ei wneud yn seiliedig ar y gallu a’r sgiliau i gyflawni'r rôl.
Ar hyn o bryd, nid yw Cyngor Dinas Gasnewydd yn cefnogi ymgeiswyr i gael yr hawl i weithio yn y DU. Cyn gwneud cais am swydd, dylai fod gennych yr hawl i weithio yn y DU.
Our values – Fairness for all, Making a difference, Being responsible, Working together
Ein Gwerthoedd - Tegwch i Bawb, Gwneud Gwahaniaeth, Bod yn Gyfrifol, Gweithio gyda'n gilydd

Apply for this job