Menu

Cynorthwyydd Addysgu – L3 - Ysgol Gymraeg Ifor Hael

Job details
Posting date: 04 June 2026
Salary: Not specified
Additional salary information: Grade 5, PCG 12 - 17, £28,598 - £31,022 pro rata
Hours: Part time
Closing date: 12 June 2026
Location: Newport, Newport, NP20 7DU
Remote working: On-site only
Company: eTeach UK Limited
Job type: Contract
Job reference: 1557996

Apply for this job

Summary

Rhif swydd POSN005118 - Cynorthwyydd Addysgu – Lefel 3 - Ysgol Gymraeg Ifor Hael
Mae Ysgol Gymraeg Ifor Hael am apwyntio Cynorthwyydd Dysgu profiadol (Lefel 3) ar gyfer swydd rhan amser ( 3diau) dros dro, am flwyddyn i ddechrau Medi 2026
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig, dibynnol a hyblyg â’r cymwysterau i fod yn aelod allweddol o'n tîm. Bydd y rôl yn cynnwys gweithio o dan gyfarwyddyd y staff addysgu ac aelodau'r Uwch Dîm Rheoli er mwyn cynorthwyo athrawon a chefnogi disgyblion drwy’r ysgol.
Bydd y dyletswyddau'n cynnwys cefnogi unigolion a grwpiau o ddisgyblion, ynghyd a phlant ADY gan ddefnyddio sgiliau, hyfforddiant a phrofiad arbenigol. Bydd hyn yn cynnwys cynllunio, cyflwyno a gwerthuso profiadau dysgu ar gyfer grwpiau o ddysgwyr ifanc. Yn achlysurol, byddwch yn goruchwylio dosbarthiadau cyfan yn ystod absenoldeb tymor byr yr athro, a phrif ffocws cyflenwi o'r fath fydd ymateb i gwestiynau, cynorthwyo disgyblion i ymgymryd â gweithgareddau a osodir, aros ar y dasg a chynnal trefn.
Bydd gennych brofiad mewn ysgol a dealltwriaeth o sut mae plant ifanc yn dysgu. Bydd gennych sgiliau llythrennedd a rhifedd rhagorol i gefnogi’n dysgwyr ac ymwybyddiaeth o raglenni ymyrraeth megis Dyfal Donc, ELSA, ComIT, Elklan, neu rywbeth tebyg. Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar sgiliau llafar ac ysgrifenedig yn y Gymraeg a’r Saesneg o’r safon uchaf.
Bydd gennych gymhwyster mewn gofal plant, lefel 3 neu gymhwyster cyfwerth a phrofiad o weithio gyda phlant. Gwerthfawrogir manylion am ddatblygiad proffesiynol ac unrhyw fanylion o weithio gyda phlant ag anghenion ychwanegol.
Cynigir y swydd ar sail 19.5 awr yr wythnos, yn gweithio yn ystod y tymor ysgol yn unig. Rhaid cymryd gwyliau blynyddol yn ystod cyfnodau gwyliau ysgol.
Mae angen cofrestru ar gyfer y CGA ar gyfer y swydd hon.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Mrs. Clare Hoey, Pennaeth, Ysgol Gymraeg Ifor Hael, Meon Close, Betws, Casnewydd NP20 7DU.Rydym yn croesawu ceisiadau ar gyfer ein holl swyddi yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn ymrwymedig i weithio tuag at gael gweithlu sy’n fwy cynrychioliadol o’r boblogaeth yr ydym yn ei gwasanaethu ac yn arbennig fe groesewir ceisiadau gan bobl o gymunedau lleiafrifoedd ethnig a gynrychiolir (neu sy’n byw) yn y ddinas. Caiff penodiad ei wneud yn seiliedig ar y gallu a’r sgiliau i gyflawni'r rôl.
Ar hyn o bryd, nid yw Cyngor Dinas Gasnewydd yn cefnogi ymgeiswyr i gael yr hawl i weithio yn y DU. Cyn gwneud cais am swydd, dylai fod gennych yr hawl i weithio yn y DU.
Our values – Fairness for all, Making a difference, Being responsible, Working together
Ein Gwerthoedd - Tegwch i Bawb, Gwneud Gwahaniaeth, Bod yn Gyfrifol, Gweithio gyda'n gilydd

Apply for this job