Menu

Prif Weithredwr

Job details
Posting date: 14 May 2026
Hours: Full time
Closing date: 10 June 2026
Location: Neath, SA10 7RF
Company: Vacancy Filler
Job type: Permanent
Job reference: MAY20261458

Apply for this job

Summary

Rydym yn chwilio am arweinydd ysbrydoledig sydd â'r weledigaeth i lunio dyfodol y Coleg a'i gymunedau ac sydd â'r ymrwymiad i helpu'r Grwp i gyflawni ei weledigaeth, ei genhadaeth a'i werthoedd gan ddarparu canlyniadau rhagorol ar gyfer dysgwyr, cefnogi staff i ffynnu, a gwneud cyfraniad sylweddol at lesiant economaidd, cymdeithasol a chymunedol rhanbarthol.Ynglyn â'r rôl: Fel Prif Weithredwr, byddech yn gyfrifol am ddarparu arweinyddiaeth ysbrydoledig, weladwy ac wedi'i harwain gan werthoedd ar draws Grwp Colegau NPTC, gyda chyfrifoldeb cyffredinol am gyfeiriad strategol, perfformiad sefydliadol, sefydlogrwydd ariannol ac enw da y Grwp. Byddech yn arwain y tîm Gweithredol wrth feithrin diwylliant cynhwysol sy'n perfformio'n gryf, lle gall dysgwyr a staff ffynnu, gan sicrhau addysg o ansawdd uchel sy'n canolbwyntio ar y dyfodol ac sy'n cyd-fynd â blaenoriaethau rhanbarthol a chenedlaethol. Fel prif lysgennad y Grwp, byddech yn parhau i feithrin partneriaethau cryf gyda chyflogwyr, rhanddeiliaid, MEDR a Llywodraeth Cymru, gan osod y Grwp fel darparwr arloesol sy'n gyfrifol yn gymdeithasol ac yn perfformio'n gryf, ac sy'n gwneud cyfraniad sylweddol at lesiant economaidd, cymdeithasol a chymunedol.Cyflog cystadleuol. Amser llawn, parhaol.37 awr yr wythnos (gan gynnwys ambell fore cynnar, nosweithiau a phenwythnosau). Grwp Colegau NPTC - wedi'i leoli yng Ngholeg Castell-nedd. Ynglyn â chi: Bydd ein hymgeisydd delfrydol wedi'i addysgu hyd at lefel gradd a bydd yn meddu ar yr hygrededd proffesiynol i weithredu fel Swyddog Cyfrifyddu gyda chyfrifoldeb dros gyllid cyhoeddus. Mae arweinyddiaeth sylweddol a llwyddiannus o fewn sefydliad cymhleth mawr, yn ddelfrydol mewn amgylchedd addysg neu amgylchedd wedi'i reoleiddio tebyg, yn hanfodol ynghyd â hanes profedig o osod a chyflawni gweledigaeth strategol glir. Bydd gennych brofiad cryf o reoli cyllid cyhoeddus a gweithredu o fewn fframweithiau wedi'u rheoleiddio sy'n destun arolygiadau, a fframweithiau llywodraethu atebol, gan gynnwys ymgysylltu'n effeithiol â Byrddau a chyrff llywodraethu. Byddwch yn arweinydd cydnerth sy'n cael ei yrru gan werthoedd, gyda sgiliau cyfathrebu ac ymgysylltu â rhanddeiliaid rhagorol gyda'r gallu i adeiladu partneriaethau effeithiol.Ynglyn â ni: Grwp Colegau NPTC yw un o'r darparwyr Addysg Bellach mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu bron i bob maes addysg a hyfforddiant galwedigaethol gan gynnwys rhaglen gyffrous ac amrywiol o gyrsiau amser llawn a rhan-amser ar draws lleoliadau o Dde i Ganolbarth Cymru.Mae Grwp Colegau NPTC wedi bod yn addysgu cenedlaethau’r dyfodol ers dros 90 mlynedd, a chredwn fod cymwysterau a hyfforddiant yn allweddol i lawer o lwybrau gyrfa gwerth chweil. Gyda’n staff addysgu hynod gymwys a’u cyfoeth o wybodaeth am ddiwydiant wrth law, byddwn yn agor y drws i ddyfodol llwyddiannus a llawn boddhad. Mae myfyrwyr wrth wraidd popeth a wnawn, ac rydym am iddynt ein gadael wedi cael mwy nag addysg yn unig. Am ragor o wybodaeth am Grwp Colegau NPTC, cliciwch ar y ddolen a ganlyn : Y Grwp Pam y dylech chi weithio i ni? Yn ogystal â'r cyflog cystadleuol, mae'r Grwp yn cynnig mynediad at ddarpariaeth Pensiwn rhagorol drwy Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol. Mae'r Grwp wedi ymrwymo i gefnogi cydbwysedd bywyd gwaith eithriadol ar lefel uwch. Mae'r hawl i wyliau blynyddol yn hael o'r diwrnod cyntaf gyda 37 diwrnod y flwyddyn, ynghyd â hyd at 5 diwrnod ychwanegol yn ystod y cyfnod cau dros y Nadolig ac 8 gwyl banc cyhoeddus.Mae gennym ystod o opsiynau gweithio hyblyg posibl ar gael gan gynnwys gweithio ystwyth, absenoldeb sabothol, a rhannu swydd, lle mae'n diwallu anghenion y Coleg. Mae buddion salwch yma yn hael, ac mae staff hefyd yn cael mynediad am ddim at iechyd galwedigaethol annibynnol, y Llinell Gymorth i Weithwyr, llinell gymorth rheoli bywyd a chymorth personol 24 awr. Mae’r Coleg hefyd yn cyflogi Cydlynydd Iechyd a Llesiant penodedig, sy’n darparu cefnogaeth ac yn trefnu digwyddiadau poblogaidd iawn ar draws y Grwp, yn ogystal â darparu mynediad i amrywiaeth o adnoddau llesiant rhad ac am ddim.Mae'r buddion ymarferol yn cynnwys maes parcio am ddim ym mhob un o’n prif golegau yn ogystal â lle i storio beiciau, ac os ydych wedi’ch lleoli yn y De gallwn hefyd gynnig gostyngiad o 10% ym Meithrinfa Ddydd Lilliput yng Nghastell-nedd.Fel sefydliad sy'n ymroddedig i addysg a dysgu gydol oes, mae'r Coleg yn hyrwyddo ac yn annog datblygiad proffesiynol parhaus yn weithredol i'n holl staff.Yn anad dim, mae ymuno â Grwp Colegau NPTC yn cynnig y cyfle i arwain sefydliad uchelgeisiol, sy'n cael ei yrru gan werthoedd ac sydd â diben cymdeithasol cryf - gan drawsnewid bywydau, cryfhau cymunedau a galluogi dysgwyr i lwyddo a ffynnu.

Apply for this job