Prentis: Cyllid
| Posting date: | 27 April 2026 |
|---|---|
| Salary: | £15,435.00 per year |
| Additional salary information: | 15435 - 15435 |
| Hours: | Full time |
| Closing date: | 26 May 2026 |
| Location: | Neath, SA10 7RF |
| Company: | Vacancy Filler |
| Job type: | Apprenticeship |
| Job reference: | APR20260019 |
Summary
Ydych chi'n chwilio am eich cam cyntaf mewn gyrfa? Oes gennych chi ddiddordeb mewn Cyllid a Chyflogres? Mae hwn yn gyfle gwych i ennill cyflogaeth, profiad a chymwysterau yn ein hadran Gyllid yng Ngrwp Colegau NPTC.Cyflog: £15,435 y flwyddyn neu'n amodol ar ddarpariaethau'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol (os yn berthnasol). 37 awr yr wythnos (gan gynnwys gyda'r hwyr ac yn gynnar yn y bore ac ar benwythnosau yn achlysurol).Contract: Cyfnod penodedig amser llawn, hyd nes cwblhau'r Fframwaith Prentisiaethau, gan gynnwys y Fframwaith Cymwysterau a Chredydau (FfCCh - NVQ gynt) a Sgiliau Hanfodol. Y cyfnod hiraf ar gyfer pob lefel FfCCh yw 66 wythnos.Ynglyn â chi: Rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn barod i ymgymryd â chymhwyster Lefel 2 y Fframwaith Cymwysterau a Chredydau mewn Gweinyddiaeth Busnes a Thystysgrifau Technegol (darperir hyfforddiant). Rhaid i ymgeiswyr feddu ar gymhwyster lefel 2 mewn Saesneg a Mathemateg (TGAU neu gyfwerth). Ynglyn â ni: Grwp Colegau NPTC yw un o'r darparwyr Addysg Bellach mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu bron i bob maes addysg a hyfforddiant galwedigaethol gan gynnwys rhaglen gyffrous ac amrywiol o gyrsiau amser llawn a rhan-amser ar draws lleoliadau o Dde i Ganolbarth Cymru. Mae Grwp Colegau NPTC wedi bod yn addysgu cenedlaethau’r dyfodol ers dros 90 mlynedd, a chredwn fod cymwysterau a hyfforddiant yn allweddol i lawer o lwybrau gyrfa gwerth chweil. Gyda’n staff addysgu hynod gymwys a’u cyfoeth o wybodaeth am ddiwydiant wrth law, byddwn yn agor y drws i ddyfodol llwyddiannus a llawn boddhad. Mae myfyrwyr wrth wraidd popeth a wnawn, ac rydym am iddynt ein gadael wedi cael mwy nag addysg yn unig.Pam y dylech chi weithio i ni? Yn ogystal â chyflogau cystadleuol, mae ein cynlluniau pensiwn ymhlith y gorau sydd ar gael. Caiff y rhain eu gweinyddu drwy’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol neu’r Cynllun Pensiwn Athrawon ac maent yn darparu pensiynau sy’n cynyddu bob blwyddyn yn unol â chwyddiant. Rydym yn cyfrannu o leiaf £10 i'ch pensiwn, am bob £100 rydych chi'n ei ennill.Mae'r lwfans gwyliau yn ardderchog o flwyddyn 1. Mae gennych 28 diwrnod o wyliau y flwyddyn (yn codi i 32 yn dilyn 5 mlynedd o wasanaeth), a gan ein bod yn cau’r Coleg am hyd at 5 diwrnod dros y Nadolig, mae hyn yn golygu hyd at 5 diwrnod o wyliau ychwanegol. Gyda’r 8 diwrnod o wyliau cyhoeddus/banc ar ben hyn, gallech elwa o 41 diwrnod o wyliau blynyddol fel Prentis. Dyma yw cydbwysedd bywyd-gwaith!Mae gennym ystod o opsiynau gweithio hyblyg posibl ar gael gan gynnwys gweithio ystwyth, absenoldeb sabothol, a rhannu swydd, lle mae'n diwallu anghenion y Coleg. Mae buddion salwch yma yn hael, ac mae staff hefyd yn cael mynediad am ddim at iechyd galwedigaethol annibynnol, y Llinell Gymorth i Weithwyr, llinell gymorth rheoli bywyd a chymorth personol 24 awr. Mae’r Coleg hefyd yn cyflogi Cydlynydd Iechyd a Llesiant penodedig, sy’n darparu cefnogaeth ac yn trefnu digwyddiadau poblogaidd iawn ar draws y Grwp, yn ogystal â darparu mynediad i amrywiaeth o adnoddau llesiant rhad ac am ddim.Mae maes parcio am ddim ym mhob un o’n prif golegau yn ogystal â lle i storio beiciau, ac os ydych wedi’ch lleoli yn y De gallwn hefyd gynnig gostyngiad o 10% ym Meithrinfa Ddydd Lilliput yng Nghastell-nedd.Mae'r Coleg yn addysgwr ac felly rydym yn hyrwyddo ac yn annog Datblygiad Proffesiynol Parhaus yn weithredol i'n holl staff; efallai y byddwn hyd yn oed yn gallu cyfrannu at y ffioedd ar gyfer graddau uwch a chymwysterau eraill sy'n ddefnyddiol i'ch swydd. Ar ben hyn i gyd, mae gweithio yn y Coleg yn rhoi’r fraint inni fod yn rhan o helpu ein dysgwyr a’n cymunedau i lwyddo a ffynnu.Mae Grwp Colegau NPTC yn cynnig llawer mwy na chyflogau da yn unig!