Menu

Prentis Llywodraethu Gwybodaeth

Job details
Posting date: 12 February 2026
Salary: £26,403 to £27,254 per year
Hours: Full time
Closing date: 02 March 2026
Location: St. Asaph, Denbighshire
Remote working: Hybrid - work remotely up to 2 days per week
Company: North Wales Fire and Rescue Service
Job type: Permanent
Job reference:

Apply for this job

Summary

Prentis Llywodraethu Gwybodaeth
wedi'i leoli ym Mhencadlys y Gwasanaeth, Llanelwy
Parhaol, 37 awr yr wythnos
Datblygu - Gradd 03 £26,403 i £27,254
Cymwys – Gradd 05 £29,064 i £31,022

Oes gennych chi ddiddordeb mewn gyrfa mewn diogelu data a llywodraethu gwybodaeth? Oes gennych chi radd C (neu'r cyfwerth) mewn Saesneg a Mathemateg, llythrennedd TG da ac awydd i ddysgu?

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a rhagweithiol i ymuno â'n tîm fel Prentis Llywodraethu Gwybodaeth. Mae hwn yn gyfle gwych i ennill profiad ymarferol wrth astudio tuag at Ddiploma Lefel 3 City & Guilds mewn Gweinyddu Busnes, a gyflwynir mewn partneriaeth â choleg lleol.

Fel prentis, byddwch yn gweithio'n agos gyda'r Swyddog Diogelu Data (DPO), gan gefnogi cydymffurfiaeth y sefydliad â gofynion diogelu data, GDPR a Rhyddid Gwybodaeth. Byddwch yn cynorthwyo gyda chynnal cofrestrau gwybodaeth, paratoi ymatebion i Geisiadau Rhyddid Gwybodaeth a Mynediad Pwnc, cefnogi datblygu polisïau a gweithdrefnau, a helpu i ddarparu hyfforddiant ar bynciau llywodraethu gwybodaeth. Byddwch hefyd yn ennill profiad o gysylltu ag asiantaethau allanol fel Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ac adrannau cefnogi ar draws y Gwasanaeth.

Mae'r rôl ddatblygu hon wedi'i chynllunio i roi'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen i chi symud ymlaen i swydd Cynorthwyydd Llywodraethu Gwybodaeth ar ôl cwblhau eich prentisiaeth yn llwyddiannus ac arddangos cymhwysedd. Ar ddiwedd y brentisiaeth, bydd cyfle i wneud cais am swydd barhaol o fewn y tîm.

Sylwch fod y swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad DBS safonol a chyfeiriadau boddhaol. Am ragor o fanylion am y rôl, cyfeiriwch at y pecyn gwybodaeth.

I wneud cais, cwblhewch a chyflwynwch eich pecyn cais drwy e-bost

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ffurflenni cais yw 12.00 hanner dydd, 02.03.2026

Bydd y dyddiad cau yn cael ei gadw'n llym ac ni fydd unrhyw eithriadau yn berthnasol.

Apply for this job