Menu

Arbenigwr Adnoddau Dynol

Job details
Posting date: 03 February 2026
Salary: £39,152 to £41,771 per year
Additional salary information: Lwfans ychwanegol o 8.5% ar gyfer gwaith tu allan i oriau arferol - dewisol
Hours: Full time
Closing date: 13 February 2026
Location: St. Asaph, Denbighshire
Remote working: Hybrid - work remotely up to 2 days per week
Company: North Wales Fire and Rescue Service
Job type: Temporary
Job reference:

Apply for this job

Summary

ARBENIGWR AD

Lleoliad gwaith yn Llanelwy/ Gweithio ystwyth
Cytundeb Tymor Byr am 6 mis, i gwmpasu secondiad
(gyda phosibilrwydd o estyniad)
37 awr yr wythnos
Gradd GTAGC 08 £39,152 i £41,771 y flwyddyn
(Lwfans ychwanegol o 8.5% ar gyfer gwaith tu allan i oriau arferol - dewisol)

Mae gennym gyfle cyffrous i Arbenigwr Adnoddau Dynol brwdfrydig ymuno â'n tîm.

Gan adrodd i'r Pennaeth Adnoddau Dynol a gweithio fel aelod gwerthfawr o'r tîm, byddwch yn darparu cefnogaeth Adnoddau Dynol cynhwysfawr, effeithlon ac effeithiol i reolwyr a gweithwyr. Bydd y rôl hon yn cynorthwyo gyda gwaith recriwtio a chydymffurfiaeth gyfreithiol (h.y. polisïau a gweithdrefnau AD a gwaith prosiect).

Yn ddelfrydol, byddwch yn gymwysedig gan CIPD neu'n gweithio tuag at gymhwyster Lefel 7 a bydd gennych brofiad o weithio mewn amgylchedd AD prysur. Rydym yn chwilio am gyfathrebwr cryf ac effeithiol gyda sgiliau rhyngbersonol da, gyda'r gallu i weithio ar draws pob lefel. Mae hyblygrwydd yn hollbwysig wrth gefnogi gwasanaeth brys rheng flaen 24 awr, felly mae'r rôl yn amrywiol ac mae'r gallu i weithio dan bwysau i gwrdd â therfynau amser yn hanfodol.

Bydd y rôl yn cael ei lleoli yn bennaf yn ein pencadlys yn Llanelwy, gyda theithio i leoliadau Gwasanaeth eraill yn ôl yr angen. Mae gweithio ystwyth ar gael (cyfuniad o weithio gartref ac o leoliadau gwasanaeth).

Mae'r rôl yn llawn amser, yn cael ei gweithio o ddydd Llun i ddydd Gwener. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus yr opsiwn i weithio'n hyblyg, i batrwm gwaith ansafonol a fydd yn cyfrannu tuag at yr wythnos 37 awr a fydd yn cynnwys tair noson y mis ar gyfartaledd a bydd hyn yn denu lwfans ychwanegol o 8.5%.

Sylwch fod lleiafswm o sgiliau lefel 2 y Gymraeg yn ofyniad ar gyfer y swydd hon; Os na ddangosir hyn ar ôl cael ei benodi, darperir cefnogaeth i gyflawni hyn yn ystod y cyfnod prawf. Mae'r rôl hon hefyd yn amodol ar wiriad DBS safonol a geirda boddhaol.

Am fwy o fanylion am y rôl, cyfeiriwch at y pecyn gwybodaeth. I wneud cais, cwblhewch a chyflwynwch eich pecyn cais drwy e-bost at: recriwtio@tangogleddcymru.llyw.cymru

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ffurflenni cais yw 12.00 hanner dydd, 13 Chwefror 2026.
Cedwir at y dyddiad cau yn llym ac ni fydd unrhyw eithriadau'n berthnasol.

Apply for this job