Menu

Cydlynydd Technoleg Gynorthwyol

Job details
Posting date: 16 December 2025
Hours: Full time
Closing date: 14 January 2026
Location: Mae gweithio hyblyg ar gael. , SA10 7RF
Company: Vacancy Filler
Job type: Permanent
Job reference: DEC20259462

Apply for this job

Summary

Ymunwch â'n tîm fel Cydlynydd Technoleg Gynorthwyol a chwaraewch rôl allweddol wrth gefnogi myfyrwyr trwy hyrwyddo, gweithredu a datblygu technoleg gynorthwyol ar draws Grwp Colegau NPTC.Graddfa 5, Pwyntiau 25-28, £32,241 - £34,720 y flwyddyn.Parhaol, amser llawn.37 awr yr wythnos (gan gynnwys gyda'r hwyr ac yn gynnar yn y bore ac ar benwythnosau yn achlysurol).Grwp Colegau NPTC - I’w lleoli ar unrhyw un o’n campysau.Ynglyn â chi: Bydd gan ein hymgeisydd delfrydol gymhwyster Lefel 4 (HNC neu gyfwerth) a phrofiad perthnasol wrth ddefnyddio technoleg gynorthwyol gyfredol (meddalwedd a chaledwedd) i gefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol ac anableddau. Dylech hefyd feddu ar gymwysterau Lefel 2 mewn Saesneg a Mathemateg (TGAU neu gyfwerth) a bod yn hyddysg mewn TG hyd at lefel 2 (gyda gwybodaeth ymarferol o MS Word ac Excel). Mae hyfforddiant sy'n gysylltiedig â Thechnoleg Gynorthwyol yn hanfodol.Ynglyn â ni: Grwp Colegau NPTC yw un o'r darparwyr Addysg Bellach mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu bron i bob maes addysg a hyfforddiant galwedigaethol gan gynnwys rhaglen gyffrous ac amrywiol o gyrsiau amser llawn a rhan-amser ar draws lleoliadau o Dde i Ganolbarth Cymru. Mae Grwp Colegau NPTC wedi bod yn addysgu cenedlaethau’r dyfodol ers dros 90 mlynedd, a chredwn fod cymwysterau a hyfforddiant yn allweddol i lawer o lwybrau gyrfa gwerth chweil. Gyda’n staff addysgu hynod gymwys a’u cyfoeth o wybodaeth am ddiwydiant wrth law, byddwn yn agor y drws i ddyfodol llwyddiannus a llawn boddhad. Mae myfyrwyr wrth wraidd popeth a wnawn, ac rydym am iddynt ein gadael wedi cael mwy nag addysg yn unig.Pam y dylech chi weithio i ni? Yn ogystal â chyflogau cystadleuol, mae ein cynlluniau pensiwn ymhlith y gorau sydd ar gael. Caiff y rhain eu gweinyddu drwy’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol neu’r Cynllun Pensiwn Athrawon ac maent yn darparu pensiynau sy’n cynyddu bob blwyddyn yn unol â chwyddiant. Rydym yn cyfrannu dros £20 i'ch pensiwn, am bob £100 rydych chi'n ei ennill.Mae'r lwfans gwyliau yn ardderchog o flwyddyn 1. Mae gennych 28 diwrnod o wyliau y flwyddyn (yn codi i 32 yn dilyn 5 mlynedd o wasanaeth), a gan ein bod yn cau’r Coleg am hyd at 5 diwrnod dros y Nadolig, mae hyn yn golygu hyd at 5 diwrnod o wyliau ychwanegol. Gyda’r 8 diwrnod o wyliau cyhoeddus/banc ar ben hyn, gallech elwa o 41 diwrnod o wyliau blynyddol. Dyma yw cydbwysedd bywyd-gwaith!Mae gennym ystod o opsiynau gweithio hyblyg posibl ar gael gan gynnwys gweithio ystwyth, absenoldeb sabathol a rhannu swydd, lle mae'n diwallu anghenion y Coleg. Mae buddion salwch yma yn hael, ac mae staff hefyd yn cael mynediad am ddim at iechyd galwedigaethol annibynnol, y Llinell Gymorth i Weithwyr, llinell gymorth rheoli bywyd a chymorth personol 24 awr. Mae’r Coleg hefyd yn cyflogi Cydlynydd Iechyd a Llesiant penodedig, sy’n darparu cefnogaeth ac yn trefnu digwyddiadau poblogaidd iawn ar draws y Grwp, yn ogystal â darparu mynediad i amrywiaeth o adnoddau llesiant rhad ac am ddim.Mae maes parcio am ddim ym mhob un o’n prif golegau yn ogystal â lle i storio beiciau, ac os ydych wedi’ch lleoli yn y De gallwn hefyd gynnig gostyngiad o 10% ym Meithrinfa Ddydd Lilliput yng Nghastell-nedd.Mae'r Coleg yn addysgwr ac felly rydym yn hyrwyddo ac yn annog Datblygiad Proffesiynol Parhaus yn weithredol i'n holl staff; efallai y byddwn hyd yn oed yn gallu cyfrannu at y ffioedd ar gyfer graddau uwch a chymwysterau eraill sy'n ddefnyddiol i'ch swydd. Ar ben hyn i gyd, mae gweithio yn y Coleg yn rhoi’r fraint inni fod yn rhan o helpu ein dysgwyr a’n cymunedau i lwyddo a ffynnu.Mae Grwp Colegau NPTC yn cynnig llawer mwy na chyflogau da yn unig!

Apply for this job