Menu

Rheolwr Safonau Proffesiynol

Job details
Posting date: 03 December 2025
Salary: £49,282 to £50,269 per year
Hours: Full time
Closing date: 24 December 2025
Location: CF72 8LX
Remote working: On-site only
Company: South Wales Fire and Rescue Service
Job type: Permanent
Job reference: 506205

Apply for this job

Summary

Dylech chi gyflwyno eich cais erbyn 24ain Rhagfyr, 2025, hanner dydd.

Mae'r Rheolwr Safonau Proffesiynol yn ganolog wrth greu amgylchedd gwaith lle bydd pobl yn teimlo'n ddiogel, wedi'u parchu a lle cânt eu trin yn deg. Mae'r rôl yn sicrhau bydd pryderon ynghylch ymarweddiad, ymddygiad neu faterion o fewn y gweithle'n cael eu rheoli mewn modd cytbwys, sensitif a chyson.
Bydd deilydd y swydd yn arwain agwedd y Gwasanaeth at safonau proffesiynol wrth
hyrwyddo tegwch, urddas, datrysiad cynnar a ffocws ar ddysgu. Byddant yn
cefnogi rheolwyr a staff i fynd i'r afael â phryderon yn adeiladol a sicrhau y cychwynnir ymchwiliad ffurfiol dim ond os bydd angen gwirioneddol i wneud hyn.
Mae'r rôl hefyd yn rheoli'r llwybrau ffurfiol, cyfrinachol ar gyfer codi pryderon. Mae'r
deilydd swydd yn sicrhau y rhoddir clust i'r pryderon hyn a hynny â gofal, y cânt eu
hasesu'n gywir ac ymatebir iddynt gydag uniondeb a pharch.
Mae'r rôl yn gofyn am agwedd bwyllog, cytbwys at ddatrys anghydfodau, fel y gall
unigolion deimlo eu bod wedi'u cefnogi a'u trin ag urddas yn ystod pob cam. Mewn
amgylchiadau prin, a dim ond pan na fydd unrhyw ddatrysiad amgen priodol ar gael,
efallai bydd y Rheolwr Safonau Proffesiynol yn cynnal ymchwiliad ei hunan. Pan fydd hyn yn digwydd, bydd amddiffynfeydd clir mewn lle i ddiogelu annibyniaeth a thegwch.

• Cytundeb: Parhaol
• Gradd: 16
• Cyflog: £49,282 - £50,269
• Oriau Gwaith: 37 awr yr wythnos
• Cyfarwyddiaeth: Gwasanaethau Pobl
• Cyfeirnod Swydd: 506205
• Lleoliad: Y Pencadlys, Llantrisant

Apply for this job