Menu

Swyddog Cyllid (Rhan amser)

Job details
Posting date: 03 December 2025
Salary: £24,334 to £26,338 per year, pro rata
Hours: Part time
Closing date: 17 December 2025
Location: Bangor, Gwynedd
Remote working: On-site only
Company: Bangor University
Job type: Permanent
Job reference: (Cyf: BU03920)

Apply for this job

Summary

Prifysgol Bangor

Gwasanaethau Myfyrwyr ac Academaidd: Gwasanaethau Campws: Y Feithrinfa

Swyddog Cyllid (Rhan amser)

(Cyf: BU03920)

Graddfa 4: £24,334 - £26,338 pro rata

Mae Prifysgol Bangor yn awyddus i benodi Swyddog Cyllid parhaol, rhan amser (15 awr yr wythnos) i weithio yn Tir Na Nog, sef canolfan uchel ei pharch ym Mangor ar gyfer gofal plant ac ymchwil.

Byddwch, gan weithio ochr yn ochr â thîm bach o staff, yn gyfrifol am oruchwylio cyllid gweithredol dyddiol y gwasanaeth meithrinfa, sy'n cynnwys prosesu taliadau aberthu cyflog staff a delio â ffynonellau ariannu eraill.

Dylai fod gan ymgeiswyr o leiaf 5 cymhwyster TGAU gyda graddau A* - C (gan gynnwys Saesneg a Mathemateg) neu NVQ lefel 2 mewn maes pwnc perthnasol neu brofiad cyfatebol mewn swydd debyg.

Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau yn y swydd ym mis Ionawr 2026.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn hyderus i gyflawni rhai tasgau yn hanfodol yn y swydd hon.

Mae’r swydd hon yn amodol ar gael gwiriad manylach boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Derbynnir ceisiadau ar-lein yn unig, trwy ein gwefan recriwtio, jobs.bangor.ac.uk. Fodd bynnag, os cewch drafferth defnyddio'r wefan oherwydd anabledd, mae ffurflenni cais papur ar gael trwy ffonio 01248 383865.

Dyddiad cau derbyn ceisiadau: 17 Rhagfyr, 2025.

Oherwydd bod y Brifysgol yn cau ar 19 Rhagfyr, cysylltir ag ymgeiswyr sydd wedi
cyrraedd y rhestr fer yn yr wythnos sy'n dechrau 5 Ionawr, 2026.

Gellir gwneud ymholiadau anffurfiol trwy gysylltu â’r canlynol: Sharon Harp, Rheolwr y Feithrinfa ar s.harp@bangor.ac.uk neu 01248 388558.

Wedi Ymrwymo i Gyfle Cyfartal.

Apply for this job