Menu

Cynorthwyydd Addysgu Lefel 1

Job details
Posting date: 08 October 2025
Salary: Not specified
Additional salary information: Gradd 2 PCG 3 - 5 £24,796 - £25,583 (Pro Rata)
Hours: Part time
Closing date: 25 October 2025
Location: Duffryn, Newport, NP10 8BX
Remote working: On-site only
Company: eTeach UK Limited
Job type: Permanent
Job reference: 1512735

Apply for this job

Summary

Mae Ysgol Gyfun Gwent Is Coed yn ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg yng Nghasnewydd. Mae wedi’i leoli wrth ymyl Parc Tredegar, 20 munud o Gaerdydd a 5 munud o’r M4. Mae ein dysgwyr yn dod o ardal unigryw o ran hanes a diwylliant ac rydym yn hynod o falch ein bod yn ran o’r tŵf yn y Gymraeg yma yn Ne Ddwyrain Cymru. Rydym yn ysgol gyfeillgar a chynhwysol yn ôl adroddiad Estyn 2022, ac rydym yn ymfalchio yn ein ethos o ddisgwyliadau uchel ar gyfer holl gymuned yr ysgol. Mae ein gwerthoedd craidd yn cynnwys bod yn uchelgeisiol ar gyfer pob unigolyn yn yr ysgol, creu cymuned hapus lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn ac yn parchu ei gilydd a datblygu dysgwyr i fod yn unigolion hyderus sy’n arddel eu Cymreictod. Rydym yn awyddus i benodi cynorthwyydd dosbarth brwd, egnîol a deallus a fydd yn cyfrannu’n llawn i wireddu gweledigaeth yr ysgol. Mae hwn yn gyfle arbennig i fod yn ran o dîm gweithgar a brwdfrydig sy’n angerddol dros sicrhau’r addysg o’r safon uchaf ar gyfer ein holl ddysgwyr. Mae Ysgol Gyfun Gwent is Coed wedi ymrwymo i ddatblygu dysgu proffesiynol parhaus holl staff yr ysgol a sicrhau bod pob aelod o gymuned yr ysgol yn derbyn profiadau ardderchog. Gwahoddir ymgeiswyr i gychwyn cyn gynted â phosibl. Cyflog ar gyfer y swydd uchod: Gradd 2
Dyddiad cau: Dydd Gwener y 24ain o Hydref 2025

Apply for this job