Menu

SWYDDOG CYFATHREBIADAU, ATYNNU AC YMGYSYLLTU 6 MIS CA LL

Job details
Posting date: 05 August 2025
Salary: £27,803 to £28,770 per year
Hours: Full time
Closing date: 25 August 2025
Location: Llantrisant, CF72 8LX
Remote working: Hybrid - work remotely up to 2 days per week
Company: South Wales Fire and Rescue Service
Job type: Contract
Job reference: 503104

Apply for this job

Summary

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru'n chwilio am arbenigwr cyfathrebu ac ymgysylltu brwdfrydig a chreadigol i ymuno â'n Tîm Cysylltiadau'r Wasg a Chyfathrebiadau a leolir yn ein Pencadlys yn Llantrisant.
Mae cyfathrebu ac ymgysylltu ill dau'n chwarae rôl gritigol o fewn cenhadaeth y Gwasanaeth i ‘gadw De Cymru'n ddiogel wrth leihau risg’. Bydd deilydd y swydd yn gweithio ar draws pob agwedd o gyfathrebu ac ymgysylltu, yn cynhyrchu datrysiadau arloesol wrth drefnu a hwyluso gweithgareddau ymgysylltu a chyfathrebiadau mewnol ac allanol. Bydd hyn yn cynnwys rheoli ymgyrchoedd, cysylltu â'r wasg, hwyluso a chydlynu digwyddiadau ymgysylltu lleol ac ar raddfa fawr.
Mae'n ofynnol i ymgeiswyr feddu ar sgiliau ysgrifennu cryf a'r gallu i ychwanegu dawn greadigol i'n cynnwys a gynhyrchwyd yn fewnol, gan gynnwys digwyddiadau a gweithgareddau sy'n ymwneud â recriwtio, lleihau risg ac enw da'r Gwasanaeth. Bydd y swydd yn gofyn am weithio'n gydweithredol ag ystod eang o bartneriaid a rhanddeiliaid ar draws 10 o Awdurdodau Unedol, gan ddefnyddio amrediad o ddulliau i sbarduno Strategaeth Gyfathrebiadau ac Ymgysylltu'r Gwasanaeth yn rhagweithiol.
O fewn y rôl amrywiol hon, ni fydd un diwrnod yr un peth gyda therfynau amser cystadleuol, felly bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn effeithlon, yn drefnus a hyderus wrth weithio'n annibynnol. Yn ogystal â bod yn gallu defnyddio eich dyfeisgarwch a datblygu syniadau newydd, mae'r Gwasanaeth yn chwilio am aelod tîm fydd yn mwynhau gweithio'n gydweithredol. Mae'r gallu i deithio'n annibynnol yn hanfodol ar gyfer y swydd hon, gan fydd y rôl yn gofyn am ymgysylltu ag adrannau mewnol ar draws pob un o'n Gorsafoedd a lleoliadau Gwasanaeth o fewn De Cymru, gan gynnwys partneriaid allanol a chyfranddalwyr allweddol.
Os ydych chi'n adroddwr straeon creadigol sydd â llygad barcud at stori newyddion, yna ni allwn aros i glywed gennych!

Apply for this job