Dewislen

RHEOLWR UNED IECHYD GALWEDIGAETHOL 12M FTC

Manylion swydd
Dyddiad hysbysebu: 04 Gorffennaf 2025
Cyflog: £47,754 i £48,710 bob blwyddyn
Oriau: Llawn Amser
Dyddiad cau: 25 Gorffennaf 2025
Lleoliad: Pontyclun, Rhondda Cynon Taff
Gweithio o bell: Hybrid - gweithio o bell hyd at 2 ddiwrnod yr wythnos
Cwmni: South Wales Fire and Rescue Service
Math o swydd: Dros dro
Cyfeirnod swydd:

Gwneud cais am y swydd hon

Crynodeb

Gwnewch gais erbyn: 25 Gorffennaf 2025 Canol Dydd
Disgwylir llunio rhestr fer: Wythnos yn dechrau 28 Gorffennaf 2025
Disgwylir cynnal cyfweliadau: 5 Awst 2025

Rydym yn chwilio am Reolwr Iechyd Galwedigaethol egnïol a phrofiadol i arwain a rheoli wrth ddarparu gwasanaethau Iechyd Galwedigaethol (IG) o fewn Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru (GTADC), tra’n cefnogi gweithlu o tua 1,700 o weithwyr. Mae'r rôl hanfodol hon yn sicrhau gweithrediad llyfn ac effeithlon yr uned IG wrth gyfrannu'n uniongyrchol at nodau ehangach y sefydliad o leihau absenoldeb drwy salwch a hyrwyddo llesiant gweithwyr.
Bydd deilydd y swydd yn gweithredu fel cyswllt hanfodol rhwng Iechyd Galwedigaethol a'r tîm Gwasanaethau Pobl ehangach, gan sicrhau bydd prosesau rheoli absenoldeb a mentrau lles yn alinio â blaenoriaethau sefydliadol a rhwymedigaethau cyfreithiol, gan gynnwys y rhai hynny sydd o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Yn gweithio'n agos â'r Partner Busnes Gwasanaethau Pobl a'r Rheolwr Gwasanaethau Pobl sy'n gyfrifol am Lesiant ill dau, bydd y rôl hefyd yn cynnwys rhaglen o uwchsgilio rheolwyr llinell yn sylweddol i faethu diwylliant o iechyd a chynhwysiant.
Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn dod â sgiliau gweinyddol ac arweinyddiaeth gref gydag ef neu hi, gyda'r gallu i ymgysylltu a chydweithredu â thîm amlddisgyblaethol gan gynnwys ymgynghorwyr iechyd a ffitrwydd, meddygon, nyrsys, ffisiotherapydd, seicotherapyddion, cwnselwyr a staff gweinyddol. Hefyd, byddant yn rhagweithiol wrth ysgogi gwelliannau mewn gwasanaethu, gyda'r gallu i reoli sefyllfaoedd sensitif a bod yn ymroddedig i gynnal safonau uchel o lywodraethiant clinigol, diogelwch data a chydymffurfiaeth CPD.
Mae hwn yn gyfle allweddol i helpu saernïo dyfodol ymgysylltiad IG ar draws y sefydliad a sicrhau bydd arferion IG yn parhau'n ymatebol, sydd â golwg at y dyfodol ac sydd wedi'u halinio ag amcanion strategol.

Gwneud cais am y swydd hon