Teaching Assistant Level 2 – Penparc Primary School
Posting date: | 20 June 2025 |
---|---|
Salary: | £24,404 per year, pro rata |
Hours: | Full time |
Closing date: | 27 June 2025 |
Location: | Cardigan, Ceredigion |
Remote working: | On-site only |
Company: | Cyngor Sir Ceredigion County Council |
Job type: | Permanent |
Job reference: | REQ106104 |
Summary
The following is for an advert for a position where the ability to converse through the medium of English and Welsh is essential.
Ydych chi’n berson brwdfrydig, egniol ac awyddus i wneud gwahaniaeth go iawn ym mywydau plant? Hoffech chi ymuno ag ysgol hapus, ofalgar a llwyddiannus lle mae lles a chynnydd pob disgybl yn ganolog i bopeth a wnawn?
Rydym yn chwilio am Gynorthwyydd Dosbarth Lefel 2 i ymuno â’n tîm ymroddedig yn Ysgol Gymunedol Penparc. Gyda 107 o ddisgyblion ar y gofrestr, rydym yn gymuned glos sy’n rhoi pwyslais ar ofal, cydweithio a chreu cyfleoedd dysgu cyffrous i bawb.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio yn y Cyfnod Sylfaen, ac o bosibl yn CA2 ar adegau, gan chwarae rhan allweddol wrth gefnogi dysgu a datblygiad disgyblion.
Disgwyliadau’r rôl:
Cefnogi disgyblion, gan gynnwys rhai ag anghenion dysgu ychwanegol, mewn amgylchedd diogel a chynhwysol.
Meithrin perthnasoedd cadarnhaol gyda disgyblion a’u hannog i gymryd rhan lawn mewn gweithgareddau dysgu.
Hyrwyddo hunan-barch, annibyniaeth a chydweithio ymhlith disgyblion.
Gweithio’n agos gydag athrawon i gynllunio a chyflwyno gweithgareddau dysgu ystyrlon.
Bod yn rhan weithgar o dîm cefnogol ac ymroddedig.
Rydym yn chwilio am rywun sydd:
Yn meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Yn gallu adeiladu perthnasau cadarn dros ystod oedran a gallu.
Yn deall y Cwricwlwm Cenedlaethol a’r Cyfnod Sylfaen.
Yn gweithio’n hyblyg ac yn gadarnhaol fel rhan o dîm.
Yn meddu ar gymhwyster CGC2 neu brofiad cyfatebol.
Byddai profiad o weithio gyda disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yn fantais, ond nid yn hanfodol.
Os ydych chi’n angerddol am gefnogi plant i gyrraedd eu potensial llawn ac yn awyddus i ymuno ag ysgol lle mae pawb yn cael eu gwerthfawrogi, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â’r Pennaeth, Trystan Phillips ar: phillipst257@penparc.ceredigion.sch.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Proud member of the Disability Confident employer scheme