Warning
This job advert has expired and applications have closed.
Clerc Cyngor Cymuned a Swyddog Ariannol Cyfrifol
| Posting date: | 02 June 2025 |
|---|---|
| Salary: | £14.60 per hour |
| Additional salary information: | £5 yr wythnos cydnabydiaeth gweithio adref a chostau teithio |
| Hours: | Part time |
| Closing date: | 16 June 2025 |
| Location: | Pentraeth |
| Remote working: | Hybrid - work remotely up to 1 day per week |
| Company: | Cyngor Cymuned Pentraeth |
| Job type: | Permanent |
| Job reference: |
Summary
Graddfa Gyflog Scp.13 £28,163 Pro rata (£14.60 yr awr) a £5 yr wythnos lwfans gweithio o’r cartref. Cyfartaledd o 10 awr yr wythnos (37 awr llawn amser cyfwerth)
Mae Cyngor Cymuned Pentraeth am benodi person egnïol a brwdfrydig i'r swydd uchod. Pentrefi bychain ar yr ochr ddwyreiniol Ynys Môn yw Pentraeth a Rhoscefnhir gyda phoblogaeth o tua 1,000. Mae'r Cyngor am benodi Clerc a Swyddog Ariannol Cyfrifol gyda phrofiad addas, i gymryd cyfrifoldeb am bob agwedd o reoli, swyddogaethau a chyfrifoldebau'r Cyngor.
Mae 11 o aelodau ar Gyngor Cymuned Pentraeth, ac mae cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn y Neuadd Goffa Pentraeth ar y dydd Mercher olaf o bob mis (heblaw mis Awst a mis Rhagfyr). Mae'r rhain yn gyfarfodydd cyhoeddus y mae gan etholwyr hawl i’w mynychu a gwrando ar drafodaeth fusnes y cyngor. Mae'r cyfarfod misol hefyd ar gael ar-lein dros Zoom.
Mae gan y Cyngor Cymuned ei gwefan ei hun, www.pentraeth-cc.uk ac mae gofyn i'r Clerc roi’r wybodaeth ddiweddaraf arni. Mae hyn yn cynnwys uwchlwytho agenda a chofnodion cyfarfodydd y cyngor.
Mae'n hanfodol bod yr ymgeisydd yn gallu cyfathrebu'n effeithiol yn Gymraeg. Cynhelir cyfarfodydd yn ddwy- ieithog gyda chyfieithydd yn bresennol a darperir gohebiaeth gan gynnwys cofnodion cyfarfodydd yn ddwyieithog. Byddai gwybodaeth am ddeddfwriaeth a gweithdrefnau Llywodraeth Leol yn fantais.
Dylai'r ymgeisydd fod yn fedrus wrth ddefnyddio rhaglenni Microsoft gan gynnwys Word ac Excel (taenlenni ariannol).
Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau - hanner dydd, ddydd Llun, 16.6.25
Am ragor o fanylion, ffurflen gais neu sgwrs anffurfiol, cysylltwch â’r clerc, Enid M Williams ar 01248722535 neu 07789963396 neu
ar E-bost: clerc@pentraeth-cc.uk neu ar enidbryn@btinternet.com
neu ar wefan y Cyngor ar