Dirprwy Bennaeth - Ysgol Y Ferch o'r Sger
Posting date: | 06 March 2025 |
---|---|
Salary: | £55,900 per year |
Hours: | Full time |
Closing date: | 05 April 2025 |
Location: | Ysgol y Ferch o'r Sger Primary School |
Company: | Bridgend County Borough Council |
Job type: | Permanent |
Job reference: | 17268_CBC |
Summary
Job description
Mae Corff Llywodraethu Ysgol yr Ferch o'sger yn dymuno penodi a
Dirprwy Bennaeth.
Mae Ysgol Y Ferch o’r Sgêr yn darparu addysg trwy gyfrwng y Gymraeg ar gyfer disgyblion 3 i 11 oed yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr.
Rydym yn ymfalchïo yn yr amgylchedd croesawgar, fagwraethol a chyfeillgar yr ydym wedi ei greu ac wrth i’r ysgol dyfu rydym yn awyddus i ddatblygu’r cysyniad o gymuned. Mae staff yr ysgol yn dîm cryf, angerddol ac ymroddedig. Mae hyn yn cynnig profiad positif a phleserus i’n dysgwyr.
Fe fydd gan Ddirprwy Bennaeth yr ysgol ran flaenllaw i’w chwarae yn y gwaith o ddatblygu’r ysgol ym mhellach a rhoi arweiniad strategol arloesol gyda’r Pennaeth ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.
Os hoffech drafod y swydd wag hon ymhellach, cysylltwch ag Amanda Evans ar 07774032624.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 26 Mawrth 2025
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 27 Mawrth 2025
Dyddiad y Cyfweliad: 10 Ebrill
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person
Proud member of the Disability Confident employer scheme