Menu

Cynorthwywyr Addysgu x 2 (Lefel 3)

Job details
Posting date: 16 May 2024
Salary: Not specified
Additional salary information: Grade 5 £18,768 (SCP07) - £20,069 (SCP11)
Hours: Part time
Closing date: 07 June 2024
Location: Caerphilly, Caerphilly, CF83 1WH
Remote working: On-site only
Company: eTeach UK Limited
Job type: Contract
Job reference: 1422807

Apply for this job

Summary

YSGOL GYNRADD GYMRAEG Y CASTELL
Cynorthwywyr Addysgu x 2 (Lefel 3)
2 x Cytundeb Blwyddyn
Oriau gwaith: 32.5 awr yr wythnos
Cyflog: NJC Grade 5
Yn eisiau ar gyfer: 01.09.24
Dymuna Llywodraethwyr Ysgol Gymraeg Y Castell apwyntio 2x Cynorthwywyr Addysgu i weithio yn yr ysgol flaengar hon.
Rydym am benodi ymarferwyr ymroddedig a brwdfrydig a fydd yn:
● gweithio’n frwd fel rhan o dîm cryf.
● cefnogi dysgu disgyblion yn nosbarthiadau’r ysgol dan oruchwyliaeth ac arweiniad yr athro dosbarth.
● cynorthwyo'r athro yn y cylch cynllunio ac asesu ac wrth reoli a pharatoi adnoddau.
● arwain gwaith 1-1 ac mewn sefyllfaoedd grŵp gyda disgyblion targedig ar draws yr ysgol.
● meddu ar sgiliau rhyngbersonol da a gallu gweithio'n hyblyg ac yn adeiladol fel rhan o dîm.
● darparu profiadau rhagorol i unigolion a grwpiau o ddysgwyr ifanc y tu mewn a thu allan i'r ystafell ddosbarth.
● meddu ar ddealltwriaeth gadarn o'r Cwricwlwm Cenedlaethol.
● gallu gwerthfawrogi a chefnogi rôl gweithwyr proffesiynol eraill.
● barod i gymryd rhan mewn datblygiad proffesiynol a chyfleoedd hyfforddi.
● gallu gweithio o dan gyfarwyddyd yr athro dosbarth i sicrhau bod dysgu o ansawdd uchel yn digwydd.
● gweithio’n sensitif gyda rhieni i sicrhau lles pob disgybl.
● goruchwylio dosbarthiadau cyfan yn achlysurol pan fydd athrawon yn absennol yn y byrdymor.
● sicrhau cyfrinachedd bob amser a dilyn gweithdrefnau.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn cael ei ystyried yn hanfodol i ymgymryd â’r swydd hon. Felly, mae'r swydd yn cael ei hysbysebu yn unol â darpariaethau Adran 38 o Ddeddf Cysylltiadau Hiliol 1976.
Dyddiad cau: Dydd Iau 6.6.24
Cyfweliadau: WD 10.6.24
Ffurflenni cais at y Pennaeth
Mr G Hughes, Pennaeth, Ysgol Gynradd Gymraeg Y Castell, Heol Cilgant, Caerffili, CF83 1WH Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Gareth Hughes ar 02 92 0 86 47 90.
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
O dan Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, mae rhaid i’r holl staff Cymorth Dysgu (sy’n cynnwys y swyddi y sonir amdanynt yma) fod wedi cofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg dros Gymru o 1 Ebrill 2016.
Bydd eich cyflogaeth yn dibynnu ar dystiolaeth ddigonol o’ch cofrestriad a’ch cofrestriad parhaol, fel Cynorthwyydd Cymorth Dysgu gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.
Gellir dod o hyd i wybodaeth am sut i gofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg ar ffonio 02 92 0 46 00 99. Eich cyfrifoldeb ydi sicrhau eich bod yn cofrestru ac yn parhau i gofrestru yn unol â thermau a thelerau eich cyflogaeth.

Apply for this job