Menu

Cynorthwyydd Dysgu Lefel 3 (Gradd 5, SCP 7-9)

Job details
Posting date: 14 May 2024
Hours: Full time
Closing date: 04 June 2024
Location: Tregwyr, Swansea, SA4 3DB
Remote working: On-site only
Company: eTeach UK Limited
Job type: Contract
Job reference: 1421993

Apply for this job

Summary

Ysgol Gyfun Gwyr
Rydyn ni’n awyddus i benodi Anogwr Dysgu (Cynorthwydd Dysgu Lefel 3) i ymuno a’r Adran Anghenion Dysgu Ychwanegol yn Ysgol Gyfun Gŵyr i gychwyn Medi 2024. Cyflog: GRADD 4 (SCP 5-6) Dyma gyfle arbennig i unigolyn i ddatblgyu’n broffesiynol drwy gynnig darpariaeth i grwpiau bach o ddisgyblion ym meysydd llythrennedd ac iaith. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus: • y weledigaeth a’r creadigrwydd i gynllunio a chreu adnoddau priodol a phwrpasol i gyflwyno ymyrraeth i grŵp bach o ddisgyblion • ymwybyddiaeth o’r anawsterau y byddai gan ddisgyblion sydd ag anghenion iaith neu lythrennedd e.e. ymwybyddiaeth ffonolegol gwan, er mwyn eu cynorthwyo i ddatrys, diwallu a lleddu’r anawsterau • Y sgiliau trefnu angenrheidiol i greu amserlen ar gyfer disgyblion blynyddoedd 7-9 • amrywiaeth o syniadau a strategaethau ar sut i gyflwyno darpariaeth amrywiol i ddiwallu anghenion y disgyblion • strategaethau i annog a chodi hunan-hyder disgyblion ym meysydd llythrennedd ac iaith • ymwybyddiaeth ar gynnig darpariaeth drwy raglen Language Link (dewisol ond nid yn ofynnol - HMS ar gael yn ôl yr angen) • sgiliau cyfathrebu arbennig er mwyn diogelu cydweithio rhagorol o fewn yr adran a gydag asiantaethau allanol • ymwybyddiaeth o ystyr sgorau safonedig ac yn gallu defnyddio’r sgorau i greu grwpiau ymyrraeth yn dilyn y profion Cenedlaethol
Oes gennych chi ddiddordeb? Oes gyda chi’r cymwysterau neu brofiad perthnasol? Hoffech chi gynorthwyo disgyblion ar eu taith addysgol? Os felly, danfonwch eich llythyr cais ynghyd â’ch CV at sylw y CADY Emma Morris drwy law Rhiannon Cummins. Cofiwch ddarparu enw dau ganolwr sy’n medru cynnig geirda ar eich cyfer. Yn ddelfrydol, danfonwch y cais ar ffurf e-bost ond derbyniwn gopi caled hefyd - i’w ddanfon at sylw Rhiannon Cummins, Ysgol Gyfun Gŵyr, Stryd Talbot, Tre-gŵyr, Abertawe. SA4 3DD. Dyddiad cau 04/06/2024. O ganlyniad i natur, dyletswyddau a chyfrifoldebau’r swydd hon, fe fydd y penodiad yn amodol ar wiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (Disclosure and Barring Service - DBS). Mae’r swydd hefyd yn amodol ar adroddiad llwyddiannus yn dilyn cyfnod prawf o chwe mîs yn gychwynnol. Gofynion Angenrheidiol y swydd: Cymraeg yw iaith swyddogol yr ysgol hon ac o ganlyniad, mae’r gallu i gyfathrebu, ysgrifennu a darllen trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd.

Apply for this job