Menu

Cynorthwyydd Dysgu Lefel 2 (Gradd 4, SCP 5-6)

Job details
Posting date: 14 May 2024
Hours: Full time
Closing date: 04 June 2024
Location: Tregwyr, Swansea, SA4 3DB
Remote working: On-site only
Company: eTeach UK Limited
Job type: Contract
Job reference: 1421988

Apply for this job

Summary


Ysgol Gyfun Gwyr - Cynorthwy-ydd Dysgu Rydyn ni’n awyddus i benodi Cynorthwy-ydd Dysgu i ymuno a’r Adran Anghenion Dysgu Ychwanegol yn Ysgol Gyfun Gŵyr i ddechrau mor gynted a phosib. Cyflog: GRADD 4 (SCP 5-6)Bydd rolau'r swydd yn cynnwys: • Gweithio gyda phobl ifanc 11 i 18 oed. • Cefnogi disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY). • Cefnogi disgyblion gyda'u sgiliau llythrennedd, rhifedd a TGCh.• Cefnogi athrawon mewn rolau amrywiol o fewn y dosbarth.• Addasu a pharatoi adnoddau a fydd yn addas ar gyfer y person ifanc y byddwch yn gweithio â nhw. • Helpu plant sydd angen cymorth ychwanegol i gynllunio a chwblhau tasgau. • Dangos empathi at anghenion eich disgyblion tra'n cael yr awydd i'w hannog i gyflawni eu potensial. • Deall y polisi diogelu plant a'ch rôl o fewn y polisïau hyn • Y gallu i ymddwyn yn broffesiynol bob amser tra'n gweithio yn yr ysgol. • Y gallu i weithio'n effeithiol dan bwysau, yn unigol ac mewn tîm. • Egni, brwdfrydedd, amynedd a synnwyr digrifwch. Oes gennych chi ddiddordeb i ddatblygu’n broffesiynol? Oes gyda chi’r cymwysterau neu brofiad perthnasol? Hoffech chi gynorthwyo disgyblion ar eu taith addysgol? Os felly, danfonwch eich llythyr cais ynghyd â’ch CV at sylw y CADY Emma Morris drwy law Rhiannon Cummins.Cofiwch ddarparu enw dau ganolwr sy’n medru cynnig geirda ar eich cyfer. Yn ddelfrydol, danfonwch y cais ar ffurf e-bost ond derbyniwn gopi caled hefyd - i’w ddanfon at sylw Rhiannon Cummins, Ysgol Gyfun Gŵyr, Stryd Talbot, Tre-gŵyr, Abertawe. SA4 3DD. Dyddiad cau 04/06/2024. O ganlyniad i natur, dyletswyddau a chyfrifoldebau’r swydd hon, fe fydd y penodiad yn amodol ar wiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (Disclosure and Barring Service - DBS). Mae’r swydd hefyd yn amodol ar adroddiad llwyddiannus yn dilyn cyfnod prawf o chwe mîs yn gychwynnol. Gofynion Angenrheidiol y swydd: Cymraeg yw iaith swyddogol yr ysgol hon ac o ganlyniad, mae’r gallu i gyfathrebu, ysgrifennu a darllen trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd.

Apply for this job