Menu

Technegydd Teilsio (CTT2024)

Job details
Posting date: 18 April 2024
Hours: Full time
Closing date: 02 May 2024
Location: Caerdydd a'r Fro, CF10 5FE
Company: Vacancy Filler
Job type: Permanent
Job reference: APR20247687

Apply for this job

Summary

Swydd Wag Fewnol / Allanol

Cyf: CTT2024
Teitl y Swydd: Technegydd Teilsio
Contract: Llawn Amser, Parhaol
Cyflog: £23,152 - £23,930 y flwyddyn
Oriau: 37 awr yr wythnos
Lleoliad: Campws Canol Dinas Caerdydd

Mae swydd wag gyffrous ar gael ar gyfer Technegydd Teilsio yn yr adran Gwasanaethau Adeiladu yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro. Bydd y swydd hon wedi’i lleoli ar Gampws Canol y Ddinas.
Mae'r cyfrifoldebau yn cynnwys:

Chwarae rhan weithredol yn yr holl sesiynau ymarferol sydd wedi’u trefnu o fewn oriau gwaith y contract a chynnig cefnogaeth i staff mewn perthynas ag adnoddau a chyfarpar er mwyn galluogi’r sesiynau hyn i redeg yn ddidrafferth.
Cynnal gweithdrefnau er mwyn defnyddio cyfleusterau adrannau’n effeithiol ac effeithlon.
Cynorthwyo staff darlithio gyda pharatoi deunyddiau a chyfarpar ar gyfer gweithgareddau myfyrwyr.
Sicrhau bod cyflenwadau digonol o ddeunyddiau, cyfarpar ac offer ar gael pan fo’u hangen.
Datgysylltu gwaith myfyrwyr a chadw deunyddiau er mwyn eu defnyddio yn y dyfodol.
Cadw cofnod rheolaidd o offer, cyfarpar etc. a chynorthwyo staff darlithio i sicrhau diogelwch cyffredinol o fewn yr adran.
Cynorthwyo gyda’r gwaith o wirio stoc a diweddaru cofnodion stoc yn flynyddol.
Cynnal archwiliadau cynnal a chadw cyffredinol cyson.
Cynorthwyo gyda’r gwaith o sicrhau amgylchedd gweithio diogel ym mhob ardal ddynodedig. Mae’r ddyletswydd hon yn cynnwys profi dyfeisiau cludadwy (PAT), rheoliadau COSHH ac unrhyw reoliadau fydd y Coleg angen eu cyflwyno yn y dyfodol, ynghyd â gweithdrefnau cofnodi cysylltiedig.
Cynorthwyo staff darlithio wrth iddynt baratoi deunyddiau addysgu cwrs, ac wrth ddatblygu a chyflwyno'r cwricwlwm fel aelod o’r tîm. Cynorthwyo gyda datblygiadau cyffredinol.
Nid yw sgiliau iaith Gymraeg yn hanfodol, ond byddai’n ddymunol eu cael ar gyfer y swydd hon


Rhaid cyflwyno ceisiadau gan ddefnyddio ffurflen gais Coleg Caerdydd a'r Fro yn unig. Mae’r coleg yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg. Ni chaiff ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn y Saesneg. Os ydym yn eich gwahodd i gyfweliad, rhowch wybod i ni os hoffech i ni gynnal y cyfweliad a’r broses asesu yn y Gymraeg.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau wedi'u cwblhau yw 02/05/2024 am 12:00pm.

Am ragor o wybodaeth neu i wneud cais ewch i www.cavc.ac.uk neu cysylltwch â'r Adran Adnoddau Dynol drwy ffonio 02920250311 neu anfonwch e-bost i recruitment@cavc.ac.uk.

Mae'r holl swyddi gwag yn destun gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ac ni fydd cyflogaeth yn dechrau heb wiriad DBS cyfredol, dilys. Mae hwn yn gontract cytundebol y mae'n rhaid iddo fod ar waith cyn bod eich cyflogaeth yn dechrau. Mae gweithdrefn y Coleg ar gyfer Addasrwydd Cyn-droseddwyr ar gyfer Cyflogaeth ar gael ar gais.

<u>Mae'r rhain yn gontractau cytundebol y mae'n rhaid iddynt fod ar waith cyn y gall eich cyflogaeth ddechrau.</u>

Rydym wedi ymrwymo i recriwtio a chadw pobl anabl, ac rydym yn gyflogwr cadarnhaol sy'n rhan o'r cynllun Hyderus o ran Anabledd.

Apply for this job