Cardiff and Vale College

Careers | Cardiff and Vale College

We are excited you have visited our Careers page. We are seeking talented individuals that are excellent in their field of expertise and are posed with all potential and skills necessary to help us meet future business challenges.

Cardiff and Vale College
This position is no longer available
If you would like to apply to other positions at Cardiff and Vale College, please return to our Careers Page.
Position not right for you?
Share it with someone you know.

Technegydd Teilsio (CTT2024)

Reference: APR20247687
Expiry date: 2024-04-24 11:00:00.000
Location: Caerdydd a'r Fro
Salary: Competitive
Benefits: Gwyliau Blynyddol hael, Cynllun Pensiwn ac Iechyd
Attachments: TilingTechnician-Advert-New_wel.docx
TilingTechnicianJD(NewTemplate)_wel.doc

Swydd Wag Fewnol / Allanol

 

Cyf:                          CTT2024

Teitl y Swydd:         Technegydd Teilsio

Contract:                 Llawn Amser, Parhaol

Cyflog:                     £23,152 - £23,930 y flwyddyn

Oriau:                      37 awr yr wythnos

Lleoliad:                  Campws Canol Dinas Caerdydd            

 

Mae swydd wag gyffrous ar gael ar gyfer Technegydd Teilsio yn yr adran Gwasanaethau Adeiladu yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro. Bydd y swydd hon wedi’i lleoli ar Gampws Canol y Ddinas.

Mae'r cyfrifoldebau yn cynnwys:

  • Chwarae rhan weithredol yn yr holl sesiynau ymarferol sydd wedi’u trefnu o fewn oriau gwaith y contract a chynnig cefnogaeth i staff mewn perthynas ag adnoddau a chyfarpar er mwyn galluogi’r sesiynau hyn i redeg yn ddidrafferth.
  • Cynnal gweithdrefnau er mwyn defnyddio cyfleusterau adrannau’n effeithiol ac effeithlon.
  • Cynorthwyo staff darlithio gyda pharatoi deunyddiau a chyfarpar ar gyfer gweithgareddau myfyrwyr.
  • Sicrhau bod cyflenwadau digonol o ddeunyddiau, cyfarpar ac offer ar gael pan fo’u hangen.
  • Datgysylltu gwaith myfyrwyr a chadw deunyddiau er mwyn eu defnyddio yn y dyfodol.
  • Cadw cofnod rheolaidd o offer, cyfarpar etc. a chynorthwyo staff darlithio i sicrhau diogelwch cyffredinol o fewn yr adran.
  • Cynorthwyo gyda’r gwaith o wirio stoc a diweddaru cofnodion stoc yn flynyddol.
  • Cynnal archwiliadau cynnal a chadw cyffredinol cyson.
  • Cynorthwyo gyda’r gwaith o sicrhau amgylchedd gweithio diogel ym mhob ardal ddynodedig. Mae’r ddyletswydd hon yn cynnwys profi dyfeisiau cludadwy (PAT), rheoliadau COSHH ac unrhyw reoliadau fydd y Coleg angen eu cyflwyno yn y dyfodol, ynghyd â gweithdrefnau cofnodi cysylltiedig.
  • Cynorthwyo staff darlithio wrth iddynt baratoi deunyddiau addysgu cwrs, ac wrth ddatblygu a chyflwyno'r cwricwlwm fel aelod o’r tîm. Cynorthwyo gyda datblygiadau cyffredinol.
  • Nid yw sgiliau iaith Gymraeg yn hanfodol, ond byddai’n ddymunol eu cael ar gyfer y swydd hon

 

Rhaid cyflwyno ceisiadau gan ddefnyddio ffurflen gais Coleg Caerdydd a'r Fro yn unig. Mae’r coleg yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg. Ni chaiff ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn y Saesneg. Os ydym yn eich gwahodd i gyfweliad, rhowch wybod i ni os hoffech i ni gynnal y cyfweliad a’r broses asesu yn y Gymraeg.

 

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau wedi'u cwblhau yw 02/05/2024 am 12:00pm.

 

Am ragor o wybodaeth neu i wneud cais ewch i www.cavc.ac.uk neu cysylltwch â'r Adran Adnoddau Dynol drwy ffonio 02920250311 neu anfonwch e-bost i recruitment@cavc.ac.uk.

 

Mae'r holl swyddi gwag yn destun gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ac ni fydd cyflogaeth yn dechrau heb wiriad DBS cyfredol, dilys. Mae hwn yn gontract cytundebol y mae'n rhaid iddo fod ar waith cyn bod eich cyflogaeth yn dechrau.  Mae gweithdrefn y Coleg ar gyfer Addasrwydd Cyn-droseddwyr ar gyfer Cyflogaeth ar gael ar gais.

 

<u>Mae'r rhain yn gontractau cytundebol y mae'n rhaid iddynt fod ar waith cyn y gall eich cyflogaeth ddechrau.</u>

 

Rydym wedi ymrwymo i recriwtio a chadw pobl anabl, ac rydym yn gyflogwr cadarnhaol sy'n rhan o'r cynllun Hyderus o ran Anabledd.