Menu

Darlithydd: Safon Uwch Mathemateg

Job details
Posting date: 16 April 2024
Hours: Full time
Closing date: 13 May 2024
Location: Neath, SA10 7RF
Company: Vacancy Filler
Job type: Permanent
Job reference: APR20247240

Apply for this job

Summary

Mae gennym uchelgais mawr i fod yn ddarparwr addysg blaenllaw yn y sector ac fe hoffem i chi chwarae rhan yn hyn o beth. Os ydych chi'n angerddol dros Addysg ac eisiau gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl, daliwch ati i ddarllen. Dim cymhwyster addysgu? Dim problem - gellir darparu hyfforddiant!
Band A. Oriau addysgu dros flwyddyn: 699.6 – 835 (yn cynnwys boreau cynnar, gyda'r hwyr a phenwythnosau yn achlysurol).
Graddfeydd Darlithydd Cyswllt 1 - 4, £24,049 - £28,381 y flwyddyn, pro rata. Graddfeydd Prif Raddfa 1 – UP1, £30,620 - £44,011 y flwyddyn, pro rata (ar gyfer darlithwyr cymwysedig).
Ynglyn â chi: Yn ddelfrydol bydd gennych gymhwyster addysgu (er y gellir darparu hyfforddiant), a hefyd cymhwyster lefel 6 (gradd neu gyfwerth) yn y maes pwnc a phrofiad perthnasol. Mae angen hefyd gymwysterau Lefel 2 mewn Mathemateg a Saesneg (TGAU neu gyfwerth). Gyda’r effaith y mae’r byd digidol yn ei chael ar ddysgu ac addysgu bydd angen i ymgeiswyr hefyd fod yn hyddysg mewn TG hyd at lefel 2 o leiaf.
Ynglyn â ni: Grwp Colegau NPTC yw un o'r darparwyr Addysg Bellach mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu bron i bob maes addysg a hyfforddiant galwedigaethol gan gynnwys rhaglen gyffrous ac amrywiol o gyrsiau amser llawn a rhan-amser ar draws lleoliadau o Dde i Ganolbarth Cymru.
Mae Grwp Colegau NPTC wedi bod yn addysgu cenedlaethau’r dyfodol ers dros 90 mlynedd, a chredwn fod cymwysterau a hyfforddiant yn allweddol i lawer o lwybrau gyrfa gwerth chweil. Gyda’n staff addysgu hynod gymwys a’u cyfoeth o wybodaeth am ddiwydiant wrth law, byddwn yn agor y drws i ddyfodol llwyddiannus a llawn boddhad. Mae myfyrwyr wrth wraidd popeth a wnawn, ac rydym am iddynt ein gadael wedi cael mwy nag addysg yn unig.
Pam y dylech chi weithio i ni?
Yn ogystal â chyflogau cystadleuol, mae ein cynlluniau pensiwn ymhlith y gorau sydd ar gael. Mae'r rhain yn cael eu gweinyddu trwy'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol neu'r Cynllun Pensiwn Athrawon ac yn darparu pensiynau sy'n cael eu cynyddu bob blwyddyn yn unol â chwyddiant. Rydym yn cyfrannu dros £20 i'ch pensiwn, am bob £100 y byddwch yn ei ennill.
Mae'r lwfans gwyliau yn ardderchog o flwyddyn 1. Mae gennych 46 diwrnod y flwyddyn o wyliau, a chan ein bod yn cau’r Coleg am hyd at 5 diwrnod dros y Nadolig, mae hyn yn golygu hyd at 5 diwrnod ychwanegol o wyliau. Gyda’r 8 diwrnod o wyliau cyhoeddus/banc ar ben hyn, gallech elwa o 59 diwrnod o wyliau blynyddol fel Darlithydd. Dyma yw cydbwysedd bywyd-gwaith!
Mae gennym ystod o opsiynau gweithio hyblyg posibl ar gael gan gynnwys absenoldeb sabothol a rhannu swydd, lle mae'n bodloni anghenion y Coleg. Mae buddion salwch yma yn hael, ac mae staff hefyd yn cael mynediad am ddim i iechyd galwedigaethol annibynnol, y Llinell Gymorth Cymorth i Weithwyr, llinell gymorth rheoli bywyd a chymorth personol 24 awr. Mae’r Coleg hefyd yn cyflogi Cydlynydd Iechyd a Llesiant ymroddedig, sy’n darparu cefnogaeth ac yn trefnu digwyddiadau poblogaidd iawn ar draws y Grwp, yn ogystal â darparu mynediad i amrywiaeth o adnoddau llesiant rhad ac am ddim.
Mae maes parcio am ddim ym mhob un o’n prif golegau yn ogystal â lle i storio beiciau, ac os ydych wedi’ch lleoli yn y De gallwn hefyd gynnig gostyngiad o 10% ym Meithrinfa Ddydd Lilliput yng Nghastell-nedd.
Mae'r Coleg yn addysgwr ac felly rydym yn hyrwyddo ac yn annog Datblygiad Proffesiynol Parhaus i'n holl staff; efallai y byddwn hyd yn oed yn gallu cyfrannu at y ffioedd ar gyfer graddau uwch a chymwysterau eraill sy'n ddefnyddiol i'ch swydd.
Ar ben hyn oll, mae gweithio yn y Coleg yn rhoi’r fraint i ni o fod yn rhan o helpu ein dysgwyr a’n cymunedau i lwyddo a ffynnu.
Mae Grwp Colegau NPTC yn cynnig llawer mwy na chyflogau da yn unig!

Apply for this job