Menu

Prentis (Lefel 3): Meithrinfa

Job details
Posting date: 25 April 2024
Hours: Full time
Closing date: 23 May 2024
Location: Neath, SA10 7RF
Company: Vacancy Filler
Job type: Apprenticeship
Job reference: APR20248891

Apply for this job

Summary

Ydych chi'n chwilio am eich cam cyntaf mewn gyrfa? Oes gennych chi ddiddordeb mewn gweithio gyda phlant? Mae hwn yn gyfle gwych i ennill cyflogaeth, profiad a chymwysterau yn ein Meithrinfa arobryn yng Ngrwp Colegau NPTC.
Ynglyn â'r rôl: Cynorthwyo ag amryw ddyletswyddau gan gynnwys lles a gofal y plant a chynllunio gweithgareddau o fewn y Feithrinfa Ddydd.
Cyflog: £12,869 y flwyddyn neu'n amodol ar ddarpariaethau'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol (os yn berthnasol).
37 awr yr wythnos (gan gynnwys gyda'r hwyr ac yn gynnar yn y bore ac ar benwythnosau yn achlysurol).
Contract: Amser llawn, cyfnod penodedig hyd nes cwblhau'r Fframwaith Prentisiaethau, gan gynnwys y Fframwaith Cymwysterau a Chredydau (NVQ gynt) a Sgiliau Hanfodol.
Y cyfnod hiraf ar gyfer pob lefel FfCCh yw 66 wythnos.
Ynglyn â chi: Rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn barod i ymgymryd â chymhwyster Lefel 3 mewn Gofal Plant (darperir hyfforddiant). Rhaid i ymgeiswyr feddu ar Ddiploma Lefel 2 mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant (neu gyfwerth) a chymwysterau lefel 2 mewn Mathemateg a Saesneg (TGAU neu gyfwerth). Byddai tystysgrif Cymorth Cyntaf yn fanteisiol er y rhoddir hyfforddiant.
Ynglyn â ni: Grwp Colegau NPTC yw un o'r darparwyr Addysg Bellach mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu bron i bob maes addysg a hyfforddiant galwedigaethol gan gynnwys rhaglen gyffrous ac amrywiol o gyrsiau amser llawn a rhan-amser ar draws lleoliadau o Dde i Ganolbarth Cymru.
Mae Grwp Colegau NPTC wedi bod yn addysgu cenedlaethau’r dyfodol ers dros 90 mlynedd, a chredwn fod cymwysterau a hyfforddiant yn allweddol i lawer o lwybrau gyrfa gwerth chweil. Gyda’n staff addysgu hynod gymwys a’u cyfoeth o wybodaeth am ddiwydiant wrth law, byddwn yn agor y drws i ddyfodol llwyddiannus a llawn boddhad. Mae myfyrwyr wrth wraidd popeth a wnawn, ac rydym am iddynt ein gadael wedi cael mwy nag addysg yn unig.
Pam y dylech chi weithio i ni? Yn ogystal â chyflogau cystadleuol, mae ein cynlluniau pensiwn ymhlith y gorau sydd ar gael. Mae'r rhain yn cael eu gweinyddu trwy'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol neu'r Cynllun Pensiwn Athrawon ac yn darparu pensiynau sy'n cael eu cynyddu bob blwyddyn yn unol â chwyddiant. Rydym yn cyfrannu dros £20 i'ch pensiwn, am bob £100 y byddwch yn ei ennill.
Mae'r lwfans gwyliau yn ardderchog o flwyddyn 1. Mae gennych 28 diwrnod y flwyddyn o wyliau (yn codi i 32 ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth), a gan ein bod yn cau'r Coleg am hyd at 5 diwrnod dros y Nadolig, mae hyn yn golygu hyd at 5 diwrnod ychwanegol o wyliau. Gyda’r 8 diwrnod o wyliau cyhoeddus/banc ar ben hyn, gallech elwa o 41 diwrnod o wyliau blynyddol fel Prentis. Dyma yw cydbwysedd bywyd-gwaith!
Mae gennym ystod o opsiynau gweithio hyblyg posibl ar gael gan gynnwys gweithio ystwyth, absenoldeb sabothol a rhannu swydd, lle mae'n bodloni anghenion y Coleg. Mae buddion salwch yma yn hael, ac mae staff hefyd yn cael mynediad am ddim i iechyd galwedigaethol annibynnol, y Llinell Gymorth Cymorth i Weithwyr, llinell gymorth rheoli bywyd a chymorth personol 24 awr. Mae’r Coleg hefyd yn cyflogi Cydlynydd Iechyd a Llesiant ymroddedig, sy’n darparu cefnogaeth ac yn trefnu digwyddiadau poblogaidd iawn ar draws y Grwp, yn ogystal â darparu mynediad i amrywiaeth o adnoddau llesiant rhad ac am ddim.
Mae maes parcio am ddim ym mhob un o’n prif golegau yn ogystal â lle i storio beiciau, ac os ydych wedi’ch lleoli yn y De gallwn hefyd gynnig gostyngiad o 10% ym Meithrinfa Ddydd Lilliput yng Nghastell-nedd.
Mae'r Coleg yn addysgwr ac felly rydym yn hyrwyddo ac yn annog Datblygiad Proffesiynol Parhaus i'n holl staff; efallai y byddwn hyd yn oed yn gallu cyfrannu at y ffioedd ar gyfer graddau uwch a chymwysterau eraill sy'n ddefnyddiol i'ch swydd.
Ar ben hyn oll, mae gweithio yn y Coleg yn rhoi’r fraint i ni o fod yn rhan o helpu ein dysgwyr a’n cymunedau i lwyddo a ffynnu.
Mae Grwp Colegau NPTC yn cynnig llawer mwy na chyflogau da yn unig!

Apply for this job