Democratic Support Officer
| Posting date: | 27 April 2026 |
|---|---|
| Hours: | Part time |
| Closing date: | 11 May 2026 |
| Location: | Conwy, Conwy County |
| Remote working: | Hybrid - work remotely up to 1 day per week |
| Company: | Conwy County Borough Council |
| Job type: | Permanent |
| Job reference: | REQ007103 |
Summary
Ydych chi’n chwilio am rôl weinyddol gyda gwahaniaeth? Ydych chi’n mwynhau gweithio mewn amgylchedd prysur? Os ydych, a’ch bod hefyd yn gweithio’n dda mewn tîm ac ymfalchïo yn eich gwaith, yn drefnus, ac yn mwynhau helpu pobl, yna mae gennym rôl a thîm a allai fod yn ddelfrydol ar eich cyfer.
Mae hon yn swydd sy’n darparu profiad helaeth, bydd yn rhoi dealltwriaeth sylfaenol i chi o sut mae awdurdodau lleol yn gweithio a bydd hefyd yn rhoi’r profiad i chi ddatblygu sgiliau craidd. Byddwch yn gweithio ar draws y gwasanaethau democrataidd a’r tîm etholiadol drwy ddarparu dyletswyddau gweinyddu effeithlon i gefnogi aelodau etholedig (Cynghorwyr) a chofrestru etholiadol, gyda’r budd ychwanegol o ennill arian ychwanegol yn ystod yr adegau prysur ond cyffrous sy’n arwain at etholiad.
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig sydd yn llawn cymhelliant gydag agwedd gadarnhaol i ymuno â thîm blaengar, sy’n awyddus i fanteisio ar dechnoleg er mwyn symud yr agenda ‘democratiaeth ddigidol’ yn ei blaen. Mae’r gwaith yn amrywiol – mae dyletswyddau’n cynnwys darparu cefnogaeth ar gyfer ystod o gyfarfodydd ffurfiol ac anffurfiol (a chymryd cofnodion), helpu i hyrwyddo tryloywder penderfyniadau gwleidyddol gan ddefnyddio ffrydio byw, gweithredu system cyfarfodydd hybrid er mwyn caniatáu i bobl fod yn bresennol yn gorfforol neu o bell yng nghyfarfodydd y Cyngor, cefnogi Cynghorwyr etholedig yn eu swyddi ward a chorfforaethol, a chynorthwyo i gynnal etholiadau.
Mae'r rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Sian Williams, Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd (sian.williams@conwy.gov.uk / 01492 576062)
Gofynion y Gymraeg: Mae’r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o’n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd. Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a’ch annog i ddefnyddio’ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i’ch cefnogi chi ymhellach.
Work base: Coed Pella, Colwyn Bay
Are you looking for an admin role with a difference? Do you enjoy working in a busy environment? If you do and you are a team player who takes pride in their work, are organised, and enjoy helping people, then we have the role and the team that may be a perfect fit for you.
This is a post that provides a breadth of experience and will provide you with the fundamentals of understanding how local authorities work and give you the experience to develop core skills. You will be working across both the democratic services and electoral team by providing efficient admin duties to support elected members (Councillors) and electoral registration, with the added benefit of earning extra money during the busy, but exciting times leading up to an election.
We are looking for an enthusiastic and motivated individual with a ‘can do’ approach to join a progressive team, keen to exploit the use of technology to advance the ‘digital democracy’ agenda. The work is varied - duties include providing support for a range of formal and informal meetings (with some minute taking), helping to promote the transparency of political decision making with the use of livestreaming, operating a hybrid meeting system to allow physical or remote attendance at Council meetings, supporting elected Councillors in their ward and corporate roles, and assisting with the running of elections
This role offers flexible working options for a work life balance. This can include adjusting your working day and hybrid working, ie a balance of office and home working.
Manager details for informal discussion: Sian Williams, Head of Democratic Services (sian.williams@conwy.gov.uk / 01492 576062)
Welsh Language Skills: The ability to communicate in Welsh is essential for this post. We are committed to our Welsh language and are proud of our Welsh culture. We welcome applications in both Welsh and English and application forms received in either language will not be treated less favourably than each other. We’re passionate about supporting and encouraging you to use your Cymraeg whatever your level. We offer free classes at all levels, in-person and on-line to support you.
Proud member of the Disability Confident employer scheme