Menu

Dirprwy Reolwr/Uwch-gynghorydd Iechyd Galwedigaethol

Job details
Posting date: 15 April 2026
Salary: £55,944 to £59,664 per year
Hours: Full time
Closing date: 29 April 2026
Location: Carmarthen, Carmarthenshire
Remote working: On-site only
Company: Dyfed-Powys Police
Job type: Permanent
Job reference:

Apply for this job

Summary

Heddlu
Heddlu Dyfed Powys
Math o rôl
Staff Heddlu
Maes Busnes / Adran
Uned Iechyd Galwedigaethol
Lleoliad
Caerfyrddin, Pencadlys
Hyblyg/Sefydlog/Sefydlog a Gweithredol
Sefydlog
Gradd
I
Cyflog
£55,944 - £59,664
Rhan/Llawn Amser
Llawn Amser
Oriau'r Wythnos
37
Math o Gytundeb
Parhaol
Lefel o allu'n y Gymraeg sy'n angenrheidiol?
1
Dyddiad Cyfweliad
15 Mai 2026
Dyddiad cau
29/04/26 23:55

Disgrifiad Hysbysiad Swydd
Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â ni fel Dirprwy Reolwr/Uwch-gynghorydd Iechyd Galwedigaethol yn Datblygu Pobl a Sefydliadau.

Beth fyddwch chi’n ei wneud?

Adrodd i'r Uwch-reolwr Iechyd Galwedigaethol sy'n arwain tîm iechyd a llesiant galwedigaethol yr heddlu.
Dirprwyo ar ran yr uwch-reolwr iechyd a llesiant galwedigaethol fel y bo angen. Bydd hyn yn gofyn am reolaeth linell ar y tîm cyfan, gan sicrhau bod system rheoli cleifion G2 yn cael ei chynnal a chadw a chywirdeb data, cyflawni'r cynllun cyflenwi strategol a gweithgareddau prosiect i gynnal gwasanaeth a momentwm yn absenoldeb yr uwch-reolwr.
Bod yn gyfrifol am fentora a goruchwylio ymgynghorwyr iechyd galwedigaethol a nyrsys sgrinio.
Os ydych chi’n credu bod gennych chi’r sgiliau a’r angerdd ar gyfer y swydd hon, cliciwch y ddolen isod i weld y proffil swydd. Os ydych chi’n credu mai hon yw’r swydd i chi, cwblhewch ffurflen gais, gan roi tystiolaeth yn erbyn y cymwysterau gofynnol (sydd ar dudalen olaf y proffil swydd fel arfer).

Cyfeiriwch hefyd at y canllawiau ar gyfer ymgeiswyr a atodir isod, sy’n rhoi mwy o fanylion ynglŷn â sut i gwblhau’ch cais.

https://www.dyfed-powys.police.uk/SysSiteAssets/media/downloads/dyfed-powys/careers/guidance-Documents/police-staff-cv-welsh.pdf

Patrwm gweithio: Amser llawn – 37 awr. Fel arfer 2 ddiwrnod ar y safle ym Mhencadlys yr Heddlu yng Nghaerfyrddin, 2 ddiwrnod yn gweithio o gartref. Bydd y patrwm gwaith hwn yn gymwys unwaith y bydd pob hyfforddiant wedi ei lwyr gwblhau. Noder: bydd gofyn am beth hyblygrwydd o ganlyniad i angen sefydliadol megis bod yn bresennol mewn digwyddiadau, cyfarfodydd, diwrnodau hyfforddi/datblygiad proffesiynol parhaus ac ati.

Beth allwch chi ddisgwyl?

Bydd gan bob dechreuwr newydd gyfaill/mentor i’ch cefnogi pan fyddwch chi’n ymuno
24 diwrnod o wyliau blynyddol (sy’n codi i 29 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth) ynghyd ag 8 gŵyl gyhoeddus
24 diwrnod ychwanegol o oriau hyblyg (gan ddibynnu ar y swydd)
Mynediad at gampfeydd a dosbarthiadau ffitrwydd yn y gweithle
Gweithio hybrid/ystwyth (gan ddibynnu ar y swydd)
Gostyngiadau gan sawl adwerthwr drwy’r Cynllun Golau Glas
Cynllun Beicio i’r Gwaith
Cefnogaeth gan ein Canolfan Iechyd a Lles, gan gynnwys Swyddogion Lles, Cwnsela a Ffisiotherapi
Cynllun pensiwn
Rhwydweithiau Cymorth Staff
Cyfleoedd gweithio hyblyg
Hawliau cyfnod mamolaeth/tadolaeth/mabwysiadu hael
Darpariaethau tâl salwch
Mae pob ymgeisydd yn ddarostyngedig i wiriadau meddygol a fetio.

Bydd y cyflog ar gyfer unrhyw swyddi gwag rhan amser ar sail pro rata.

Cynhelir cyfweliadau: 14/05/2026 & 15/05/2026

Amrywiaeth a’r Gymraeg

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn gyflogwr cynhwysol sy’n anelu i gael gweithlu sy’n cynrychioli’r cymunedau mae’n eu plismona a’u gwasanaethu. Credwn y byddwn yn elwa o’r amrywiaeth o feddyliau, ymagweddau a sgiliau y gall amrywiaeth gyflwyno, sy’n medru’n helpu i gyflwyno gwell gwasanaeth plismona.

Yr ydym yn parhau i weithio tuag at greu diwylliant diogel, agored sy’n foesegol ac yn cynnwys pawb. Mae gennym amrediad o grwpiau a rhwydweithiau staff i roi cyngor a chymorth penodol, a’n nod yw recriwtio pobl dalentog ag amrywiaeth eang o sgiliau a phrofiadau. Yr ydym yn croesawu ceisiadau o bob cefndir a chymuned, ni waeth am oed, rhyw, ethnigrwydd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd neu fynegiant rhywedd, anabledd, statws cymdeithasol neu gredoau crefyddol.

Cliciwch fan hyn i weld pa un ai a ydych chi’n gymwys ar gyfer Gweithredu Cadarnhaol ai peidio.

Yr ydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad dwyieithog ac ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Pwynt gwybodaeth:

Os oes angen rhagor o wybodaeth am y swydd hon arnoch, peidiwch ag oedi i gysylltu: recruitment@dyfed-powys.police.uk

Neu ymunwch â’n digwyddiad recriwtio galw heibio wythnosol ar ddydd Mercher o 11y.b. – 11:30y.b. fan hyn.

Apply for this job