Menu

Cynorthwyydd Lleoliadau Proffesiynol

Job details
Posting date: 09 March 2026
Salary: £24,334 to £26,338 per year, pro rata
Hours: Part time
Closing date: 22 March 2026
Location: Bangor, Gwynedd
Remote working: On-site only
Company: Bangor University
Job type: Permanent
Job reference: (Cyf: BU03976)

Apply for this job

Summary

Prifysgol Bangor

Gwasanaethau Myfyrwyr ac Academaidd: Gweinyddu Myfyrwyr a Chefnogi Busnes

Cynorthwyydd Lleoliadau Proffesiynol

(Cyf: BU03976)

Graddfa 4: £24,334 - £26,338 y flwyddyn (pro rata)


Gwahoddir ceisiadau am y swydd ran-amser barhaol uchod (29 awr) yn gweithio o fewn Gweinyddu Myfyrwyr a Chefnogi Busnes.

Rydym yn chwilio am Gynorthwyydd Lleoliadau Proffesiynol cymwys a phrofiadol i ymuno â'r Tîm Lleoliadau Proffesiynol i helpu i weinyddu’r ddarpariaeth lleoliadau ar draws y Rhaglenni Proffesiynol.

Dylai ymgeiswyr fod ag o leiaf 5 cymhwyster TGAU gyda graddau A* - C (gan gynnwys Saesneg a Mathemateg) neu NVQ lefel 2 mewn maes pwnc perthnasol. Byddwch yn meddu ar brofiad o weithio mewn swyddfa neu leoliad gweinyddol a byddwch yn fedrus wrth ddefnyddio amrywiaeth o raglenni Microsoft Office. Bydd gennych sgiliau trefnu ardderchog a'r gallu i ymdrin â llwyth gwaith amrywiol a thrwm ac i fewnbynnu data yn gywir gan roi sylw i fanylion.

Mae gallu cyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol i'r swydd.

Ystyriwn geisiadau hefyd i wneud y swydd yn rhan amser neu rannu’r swydd.

Derbynnir ceisiadau ar-lein yn unig, trwy ein gwefan recriwtio, jobs.bangor.ac.uk. Fodd bynnag, os cewch drafferth defnyddio'r wefan oherwydd anabledd, mae ffurflenni cais papur ar gael trwy ffonio 01248 383865.

Dyddiad cau derbyn ceisiadau: 22 Mawrth, 2026.

Gellir gwneud ymholiadau anffurfiol trwy gysylltu â’r canlynol: Vanessa Williams, Swyddog Lleoliadau Proffesiynol, e-bost: v.williams@bangor.ac.uk, Ffôn: 01248 388785.

Wedi Ymrwymo i Gyfle Cyfartal.

Apply for this job