Menu

Gweinyddwr Archebu Ystafelloedd

Job details
Posting date: 27 February 2026
Salary: £26,942 to £29,959 per year
Hours: Full time
Closing date: 15 March 2026
Location: LL57 2DG – opsiwn i dreulio peth amser yn gweithio o bell a drafodir ymhellach gydag ymgeiswyr yn y cyfweliad.
Remote working: Hybrid - work remotely up to 2 days per week
Company: Bangor University
Job type: Permanent
Job reference: (Cyf: BU03944)

Apply for this job

Summary

Prifysgol Bangor

Gwasanaethau Myfyrwyr ac Academaidd: Cofrestrfa (Cefnogaeth Busnes)

Gweinyddwr Archebu Ystafelloedd

(Cyf: BU03944)

Graddfa 5: £26,942 - £29,959

Rydym yn awyddus i benodi Gweinyddwr Archebu Ystafelloedd ar sail barhaol a llawn amser i weithio fel aelod o'r tîm amserlennu. Bydd yn gyfrifol am yr holl archebion ar gyfer ystafelloedd addysgu ac ystafelloedd sy’n gysylltiedig ag addysgu ar draws y Campws, a bydd yn cadw mewn cyswllt â chydweithwyr yn Swyddfa Gynadleddau'r Brifysgol, ac mewn adrannau gwasanaeth eraill yn y Brifysgol yn ôl yr angen. Bydd hyn yn cynnwys archebion ar gyfer gweithgarwch academaidd, cyfarfodydd mewnol, gweithgareddau allgyrsiol myfyrwyr a gweithgareddau tebyg.

Dylech fod wedi cael addysg hyd at gymhwyster Uwch Gyfrannol / Safon Uwch (neu gymhwyster cyfwerth) neu dylai fod gennych brofiad perthnasol cyfatebol mewn rôl debyg. Bydd gennych sgiliau rhagorol mewn technoleg gwybodaeth, cyfathrebu a threfnu a byddwch yn gallu cwrdd â therfynau amser, a gwneud gwaith cywir a rhoi sylw i fanylion.

Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau yn y swydd cyn gynted â phosib.

Mae gallu cyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol i'r swydd.

Byddwch yn gweithio ar y campws ym Mangor. Trwy ein fframwaith Gweithio Deinamig, bydd dewis hefyd i dreulio peth amser yn gweithio o bell (er yn aros yn y Deyrnas Unedig) i gynnal cydbwysedd bywyd a gwaith. Caiff hynny ei drafod gyda’r ymgeiswyr yn y cyfweliad.

Ystyrir ceisiadau hefyd i wneud y swydd yn rhan amser neu rannu’r swydd.

Derbynnir ceisiadau ar-lein yn unig, trwy ein gwefan recriwtio, jobs.bangor.ac.uk. Fodd bynnag, os cewch drafferth defnyddio'r wefan oherwydd anabledd, mae ffurflenni cais papur ar gael trwy ffonio 01248 383865.

Dyddiad cau derbyn ceisiadau: 15 Mawrth, 2026.

Gellir gwneud ymholiadau anffurfiol trwy gysylltu â’r canlynol: Llŷr Hughes, Rheolwr y Gofrestrfa: Cefnogaeth Busnes, llyr.hughes@bangor.ac.uk

Wedi Ymrwymo i Gyfle Cyfartal.

Apply for this job