Tiwtor Asesydd Cynllun Ysgolion Cam Wrth Gam(Cyfnod Mamolaeth)
| Posting date: | 19 February 2026 |
|---|---|
| Salary: | £26,269 to £29,610 per year, pro rata |
| Hours: | Part time |
| Closing date: | 04 March 2026 |
| Location: | Caerffili a Torfaen |
| Remote working: | Hybrid - work remotely up to 2 days per week |
| Company: | Mudiad Meithrin Cyf |
| Job type: | Temporary |
| Job reference: |
Summary
Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn gyfathrebwr hyderus yn y Gymraeg, yn frwdfrydig ac â sgiliau rhyngbersonol rhagorol. Os ydych yn frwdfrydig, yn drefnus ac yn ymroddedig i gefnogi dysgwyr i lwyddo, ymgeisiwch heddiw!
Dyletswyddau’r Swydd:
Bydd yn atebol i Brif Weithredwr Mudiad Meithrin trwy'r Prif Swyddog Cam Wrth Gam i gyflawni’r dyletswyddau canlynol:
• Cyflwyno elfennau theori’r cwrs yn yr ysgol
• Cynhyrchu adnoddau dysgu ar gyfer unedau’r cwrs, Lefel 2 craidd a Lefel 2/3 Ymarfer a Theori GChDDP, gan ystyried elfennau ychwanegol fel integreiddio’r sgiliau allweddol i’r gwaith galwedigaethol
• Asesu gwaith disgyblion yn ôl gofynion y bwrdd dyfarnu a threfnu achrediad portffolios.
• Asesu yn y lleoliad wyth gwaith y flwyddyn os yn berthnasol.
• Sicrhau fod y dysgwr yn derbyn adborth teg ac adeiladol ar ôl bob asesiad.
• Cydweithio â chydlynydd galwedigaethol cyrsiau Gofal Plant yr ysgol i drefnu amserlenni a’r adnoddau fydd eu hangen ar gyfer yr elfennau o’r cwrs a gyflawnir yn yr ysgol
• Cydweithio â rheolwr cwricwlwm a mentor yr ysgol i sicrhau llwyddiant y dysgwyr yn elfennau ychwanegol eu rhaglen ddysgu e.e. sgiliau allweddol
• Gosod aseiniadau i’r myfyrwyr i’w cwblhau yn annibynnol pan nad oes tiwtor gyda hwy yn yr ysgol a’i osod ar y system electroneg, cysylltu â’r partneriaid yn ôl yr angen a delio gyda unrhyw anawsterau fel bod angen
• Monitro cynnydd y dysgwyr ymhob agwedd o’r cwrs
• Gosod aseiniadau’r myfyrwyr / gwaith y dysgwyr ar y system electroneg Di-bapur (e.e. OneDrive/Valid-8 ), i’w dilysu os yn berthnasol.
• Cydweithio â Cham wrth Gam i gynllunio lleoliadau profiad gwaith y dysgwyr/myfyrwyr.
• Trefnu ymweliadau gan drafod gyda’r dysgwyr, arweinyddion y cylchoedd ac athrawon / penaethiaid ysgolion.
• Marchnata’r cwrs yn yr ysgol gan fynychu cyfarfodydd megis cyfarfodydd rhieni a digwyddiadau gyrfa yn yr ysgol
• Sicrhau cysylltiad cyson â holl bartneriaid y prosiect
• Mynychu sesiynau hyfforddiant mewn swydd.
• Mynychu cyfarfodydd safoni unwaith bob tymor.
• Gwirio dogfennaeth Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd y dysgwyr (GDG)
• Mynychu seremoni wobrwyo flynyddol Cam wrth Gam
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau perthnasol eraill yn ôl cyfarwyddyd Prif Swyddog/Rheolwr Cynllun Hyfforddi Cenedlaethol a Chynllun Ysgolion Cam Wrth Gam / Prif Weithredwr Mudiad Meithrin.
Proud member of the Disability Confident employer scheme