Menu

Tiwtor Hanes a Treftadaeth

Job details
Posting date: 10 February 2026
Salary: £32 per hour
Hours: Part time
Closing date: 24 February 2026
Location: Anglesey, Wales
Remote working: Hybrid - work remotely up to 5 days per week
Company: Addysg Oedolion Cymru I Adult Learning Wales
Job type: Contract
Job reference: Tiwtor Hanes a Treftadaeth 02.26

Apply for this job

Summary

Tiwtor Hanes a Treftadaeth
Cyflwyno Dwyieithog
Gwynedd, Ynys Môn ac Ar-lein
Raddfa tâl: £32 yr awr (yn cynnwys tâl gwyliau)
Yn ogystal â a phecyn buddion hael

Mae gennym gyfle gwych ar gyfer tiwtoriaid gymwysedig a medrus i gyflwyno cyrsiau Hanes a Treftadaeth Dwyieithog i ddysgwyr yn ardaeloedd Gwynedd ac Ynys Môn, ac ar-lein. Byddwch yn cynllunio, datblygu, cyflwyno, gwerthuso ac asesu cyrsiau a rhaglenni dysgu yn unol ag anghenion dysgwyr a Gweithdrefnau Ansawdd Addysg Oedolion Cymru, er mwyn cefnogi cyflwyno dysgu o ansawdd uchel.

Mae rôl Tiwtor yn rôl amrywiol, ymarferol lle byddwch yn gweithio’n annibynnol yn ogystal â gyda thîm y rhanbarth.

Byddwch yn gyfrifol am (ond nid yn gyflawn):

• Cynllunio a pharatoi cyrsiau – paratoi cynlluniau gwersi a chynlluniau gwaith. Dewis deunyddiau dysgu ac ystod o ddulliau dysgu i ddiwallu anghenion y dysgwr.
• Cefnogi dysgwyr – Asesu profiadau dysgu blaenorol a chyflawniadau dysgwyr, rhoi cyngor ac arweiniad priodol iddynt, a sicrhau bod dysgwyr yn ymwybodol o’u llwybrau dilyniant.
• Cyffredinol – ymgymryd â thasgau gweinyddol yn unol â rheoliadau ar gyfer cyllido Addysg Oedolion Cymru I Adult Learning Wales. Mynychu cyfarfodydd tiwtor perthnasol, briffiau ansawdd a chyfarfodydd achredu / safoni perthnasol.

Os oes gennych y sgiliau cywir, ac eisiau gweithio mewn maes hynod werth chweil lle mae eich gweithredoedd yn gwneud gwahaniaeth i bobl ledled Cymru, yna byddem wrth ein bodd yn derbyn eich cais.

Sut i wneud cais

Ymgeisiwch erbyn 12.00yh Dydd Mawrth 24ain Chwefror 2026 gan ddefnyddio'r ffurflen gais ar gael ar wefan Addysg Oedolion Cymru - nodwch n ad ydym yn derbyn CV. Ceir rhagor o fanylion am y rôl ynghyd â manyleb swydd a person yn y pecyn cais.

Proses Dethol a Recriwtio 

Cyfweliadau i'w cynnal Dydd Gwener 13eg Mawrth.

Fel rhan o'r broses gyfweld gofynnir i chi gyflwyno sesiwn meicroaddysgu 15 munud, a darparu cynllun gwers, cynllun gwaith, ac unrhyw adnoddau ar gyfer y sesiwn hon.

Mae Addysg Oedolion Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a thyfu ei weithlu dwyieithog. Gellir cyflwyno ceisiadau am unrhyw swydd yn Gymraeg neu Saesneg. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn y naill iaith neu'r llall yn cael eu trin yn gyfartal.

Mae safbwyntiau a phrofiadau amrywiol yn hanfodol i’n llwyddiant, ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o unrhyw gefndir sydd â’r profiad a’r sgiliau sydd eu hangen i gyflawni’r rôl hon.

Rydym yn hapus i drafod unrhyw addasiadau rhesymol gallai fod eu hangen ar unigolion yn ystod y broses recriwtio, ar gychwyn y swydd, neu unwaith y byddant yn y swydd.

Apply for this job