Menu

Gorsaf Caernarfon Cynorthwywyr Tîm

Job details
Posting date: 05 February 2026
Salary: Not specified
Additional salary information: Cyflog Byw Cenedlaethol / Isafswm ar gyfer oedran
Hours: Part time
Closing date: 07 March 2026
Location: LL55 2PF
Remote working: On-site only
Company: Festiniog Railway Company
Job type: Temporary
Job reference:

Apply for this job

Summary

Mae Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri yng nghalon Parc Cenedlaethol Eryri ac yn atyniad mawr i dwristiaid yng Ngogledd Cymru. Mae ein gwasanaeth, sydd wedi'i anelu at y farchnad dwristiaeth, yn sefyll allan fel y gorau yn y diwydiant. Mae adeilad ein gorsaf yng Nghaernarfon yn rhoi cyfle cyffrous i ddarparu cyfleusterau o'r radd uchaf i'n hymwelwyr. Rydym nawr yn edrych am dîm i redeg yr orsaf yn 2026.

Rydym yn edrych am bobl brwdfrydig i gynorthwyo gyda'r gweithrediadau o ddydd i ddydd yn yr Orsaf, gan gynnwys gwasanaethu yn y Caffi, Swyddfa Siop a Thocynnau ac cyflwyno digwyddiadau. Dyma gyfle cyffrous i fod yn rhan o’r tîm sy’n datblygu'r cyfleuster hwn i fewn i gaffi, lleoliad manwerthu a digwyddiadau deinamig, llewyrchus; gan greu canolbwynt bywiog i ymwelwyr y rheilffyrdd a'r gymuned leol.

Gallwn gynnig i chi:

• Cyflog Byw Cenedlaethol / Isafswm ar gyfer oedran
• Contract tymhorol rhwng 23ain o Mawrth 2026 i’r 1af o Tachwedd 2026, gyda’r posibilrwydd o estyniad hyd at gychwyn Ionawr 2027
• Sifftiau hyblyg i weddu i'r ymgeisydd: tua. 24 awr (3 i 4 diwrnod) yr wythnos, yn ystod yr wythnos ac ar benwythnosau; neu benwythnosau a gwyliau ysgol
• Cyfwerth pro rata o 28 diwrnod o wyliau â thâl, gan gynnwys yr holl wyliau banc a chyhoeddus
• Ymrestru i gynllun pensiwn y cwmni ar ôl cyfnod cymhwyso
• Cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant a chynnydd
• Manteision teithio ar Reilffyrdd Ffestiniog ac Eryri a gostyngiadau staff mewn siopau a chaffis.

Bydd gan yr ymgeiswyr llwyddiannus frwdfrydedd i weithio yn y diwydiannau lletygarwch, arlwyo neu dwristiaeth a pharodrwydd i ddysgu, datblygu a chyfrannu at y tîm. Byddai profiad blaenorol mewn rôl gwasanaeth cwsmeriaid o fantais ond bydd hyfforddiant llawn yn cael ei ddarparu. Mae hon yn ardal Gymraeg ei hiaith yn bennaf ac mae'r Cwmni yn gweithredu polisi dwyieithrwydd. Mae'r gallu i ysgrifennu a sgwrsio yn Gymraeg felly yn hynod o ddymunol ar gyfer y swyddi hyn. Bydd disgwyl i chi ymgymryd ag unrhyw a phob tasg yn yr orsaf yn ôl y gofyn felly mae angen parodrwydd i weithio'n hyblyg.

Sgiliau Craidd:
• Brwdfrydedd i weithio yn y diwydiant lletygarwch, arlwyo neu dwristiaeth
• Swydd ‘Blaen Tŷ’ felly sgiliau cyfathrebu da a gwarediad siriol yn bwysig
• Lefelau da o rifedd, llythrennedd a sgiliau TG
• Parodrwydd i ddysgu sgiliau newydd
• Chwaraewr tîm da gyda pharodrwydd a brwdfrydedd i ymuno â digwyddiadau ac i fod yn hyblyg ac yn addasadwy i unrhyw dasg a osodir
• Byddai gwybodaeth a dealltwriaeth sylfaenol o hylendid bwyd a chegin yn fantais
• Byddai gwybodaeth am y rheilffyrdd, eu teithwyr a'r ardal leol o fantais.

Rhaid bod gan ymgeiswyr am y swyddi hyn yr hawl i weithio yn y DU.

Proud member of the Disability Confident employer scheme

Disability Confident
A Disability Confident employer will generally offer an interview to any applicant that declares they have a disability and meets the minimum criteria for the job as defined by the employer. It is important to note that in certain recruitment situations such as high-volume, seasonal and high-peak times, the employer may wish to limit the overall numbers of interviews offered to both disabled people and non-disabled people. For more details please go to Disability Confident.

Apply for this job