Stiward ar y Trên Blaenau Ffestiniog
| Posting date: | 30 January 2026 |
|---|---|
| Salary: | Not specified |
| Additional salary information: | Cyflog Byw Cenedlaethol / Isafswm ar gyfer oedran |
| Hours: | Full time |
| Closing date: | 01 March 2026 |
| Location: | LL41 3ES |
| Remote working: | On-site only |
| Company: | Festiniog Railway Company |
| Job type: | Temporary |
| Job reference: |
Summary
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig i weithio ar Y Chwarelwr o Flaenau Ffestiniog ar Reilffordd Ffestiniog.
Gallwn gynnig i chi:
• Cyflog Byw Cenedlaethol / Isafswm ar gyfer oedran
• Contract tymhorol o ddydd Llun 23ain o Fawrth 2026 i’r dydd Sadwrn 31ain o Hydref 2026
• Oriau amrywiol; tua 3 - 4 diwrnod yr wythnos
• Cyfwerth pro rata o 28 diwrnod o wyliau â thâl gan gynnwys yr holl wyliau banc a chyhoeddus
• Ymrestriad i gynllyn pensiwn y cwmni ar ôl cyfnod cymhwyso
• Cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant a datblygiad gyrfaol
• Manteision teithio ar Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri a gostyngiadau staff mewn siopau a chaffis
Bydd dyletswyddau allweddol yn cynnwys cyfarch teithwyr, darparu gwybodaeth ac adrodd straeon ffeithiol am y rheilffyrdd; a gwerthu arweinlyfrau, lluniaeth, ac eitemau eraill ar fwrdd y trenau.
Lleolir y swydd hon ym Mlaenau Ffestiniog, fodd bynnag efallai y gofynnir i aelodau'r tîm weithio o Borthmadog neu fannau cychwyn eraill o bryd i'w gilydd.
Bydd gan yr ymgeiswyr llwyddiannus frwdfrydedd dros weithio yn y diwydiannau lletygarwch, arlwyo neu dwristiaeth a pharodrwydd i ddysgu, datblygu a chyfrannu at y tîm. Byddai profiad blaenorol mewn rôl gwasanaeth cwsmeriaid o fantais ond bydd hyfforddiant llawn yn cael ei ddarparu.
Sgiliau Craidd:
• Swydd ‘Blaen Tŷ’ felly bydd sgiliau cyfathrebu da a gwarediad siriol yn bwysig
• Rhaid bod yn daclus ac groesawgar
• Ymddangosiad smart gan ddilyn côd gwisg llym.
• Gallu cyfathrebu gwybodaeth mewn modd clir a chyfeillgar
• Rhagweithiol a gallu gweithio ar eich menter eich hun
• Rhaid bod yn rhifog, llythrennog ac hefo sgiliau cyfrifiadurol sylfaenol
Mae hon yn ardal Gymraeg ei hiaith yn bennaf ac mae'r Cwmni yn gweithredu polisi dwyieithrwydd. Felly, mae'r gallu i sgwrsio yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swyddi hyn. Mae angen gwybodaeth am leoliadau ar y Rheilffyrdd a'u defnydd gan ymwelwyr ar gyfer y swydd yma, byddai gwybodaeth o Flaenau Ffestiniog a Phorthmadog a'r cyffiniau yn fanteisiol.
Rhaid i ymgeiswyr fod yn hyblyg ac yn gallu gweithio yn ystod yr wythnos ac ar benwythnosau. Bydd oriau gwaith yn amrywio ac efallai y bydd oriau ar gael i weddu i'r ymgeisydd, gydag oriau ychwanegol ar gael yn ystod tymor prysur yr haf.
Rhaid bod gan ymgeiswyr am y swydd hon yr hawl bresennol i weithio yn y DU.
Proud member of the Disability Confident employer scheme