Stiward ar y Trên Caernarfon
| Posting date: | 30 January 2026 |
|---|---|
| Salary: | Not specified |
| Additional salary information: | Cyflog Byw Cenedlaethol / Isafswm ar gyfer oedran |
| Hours: | Full time |
| Closing date: | 01 March 2026 |
| Location: | LL54 5UP |
| Remote working: | On-site only |
| Company: | Festiniog Railway Company |
| Job type: | Temporary |
| Job reference: |
Summary
Rydym yn chwilio am sawl person i weithio ar ein trenau ar Reilffordd Eryri.
Gallwn gynnig i chi:
• Cyflog Byw Cenedlaethol / Isafswm ar gyfer oedran
• Contract tymhorol o ddydd Llun 23ain o Fawrth 2026 i’r dydd Sadwrn 31ain o Hydref 2026, gyda’r posibilrwydd o estyniad hyd at gychwyn Ionawr 2027
• Sifftiau hyblyg i weddu’r ymgeisydd: o leiaf 2 ddiwrnod yr wythnos, yn ystod yr wythnos ac ar benwythnosau; neu penwythnosau a gwyliau ysgol
• Cyfwerth pro rata o 28 diwrnod o wyliau â thâlgan gynnwys yr holl wyliau banc a chyhoeddus
• Ymrestriad i gynllyn pensiwn y cwmni ar ôl cyfnod cymhwyso
• Cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant a datblygiad gyrfaol
• Manteision teithio ar Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri a gostyngiadau staff mewn siopau a chaffis
Bydd dyletswyddau allweddol yn cynnwys cofrestru’r cwsmeriaid yng ngorsaf Caernarfon, cyfarch teithwyr ar y tren, darparu gwybodaeth, ac adrodd straeon ffeithiol am y rheilffyrdd, gwerthu arweinlyfrau, yn darparu gwasanaeth lluniaeth troli wrth seddi, a chynorthwyo i ddarparu ein gwasanaeth moethus yn y dosbarth Aur.
Lleolir y swyddi hyn yn Ninas, ger Caernarfon, fodd bynnag efallai y gofynnir i aelodau'r tîm weithio o Borthmadog neu fannau cychwyn eraill ar naill ai Rheilffordd Eryri neu wasanaethau Rheilffordd Ffestiniog o bryd i'w gilydd.
Bydd gan yr ymgeiswyr llwyddiannus frwdfrydedd dros weithio yn y diwydiannau lletygarwch, arlwyo neu dwristiaeth a pharodrwydd i ddysgu, datblygu a chyfrannu at y tîm. Byddai profiad blaenorol mewn rôl gwasanaeth cwsmeriaid o fantais ond bydd hyfforddiant llawn yn cael ei ddarparu.
Sgiliau Craidd:
• Swydd ‘Blaen Tŷ’ felly bydd sgiliau cyfathrebu da a gwarediad siriol yn bwysig
• Rhaid bod yn daclus ac yn groesawgar
• Ymddangosiad smart gan ddilyn côd gwisg llym
• Gallu cyfathrebu gwybodaeth mewn modd clir a chyfeillgar
• Rhagweithiol a gallu gweithio ar eich menter eich hun
• Rhaid bod yn rhifog, llythrennog ac hefo sgiliau cyfrifiadurol sylfaenol
Mae hon yn ardal Gymraeg ei hiaith yn bennaf ac mae'r Cwmni yn gweithredu polisi dwyieithrwydd. Felly, mae'r gallu i sgwrsio yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swyddi hyn. Mae angen gwybodaeth am leoliadau ar y Rheilffyrdd a'u defnydd gan ymwelwyr ar gyfer y swydd yma, byddai gwybodaeth o Gaernarfon a'r cyffiniau yn fanteisiol.
Rhaid i ymgeiswyr fod yn hyblyg ac yn gallu gweithio yn ystod yr wythnos ac ar benwythnosau. Bydd oriau gwaith yn amrywio ac efallai y bydd oriau ar gael i weddu i'r ymgeisydd, gyda hyd at 40 awr yr wythnos ar gael yn ystod tymor prysur yr haf.
Rhaid bod gan ymgeiswyr am y swydd hon yr hawl bresennol i weithio yn y DU.
Proud member of the Disability Confident employer scheme