Menu

Cynorthwywyr Cefnogi Dysgwyr - Gwaith Ieuenctid

Job details
Posting date: 21 January 2026
Salary: £15.93 per hour
Hours: Part time
Closing date: 03 February 2026
Location: Swansea, Wales
Remote working: Hybrid - work remotely up to 5 days per week
Company: Addysg Oedolion Cymru I Adult Learning Wales
Job type: Contract
Job reference: Cynorthwywyr Cefnogi Dysgwyr - Gwaith Ieuenctid 01.26

Apply for this job

Summary

Cynorthwywyr Cefnogi Dysgwyr
Ledled Cymru ac Ar-Lein
Raddfa tâl: £15.93 yr awr (yn cynnwys tâl gwyliau)
Yn ogystal â a phecyn buddion hael

Mae gennym gyfle gwych ar gyfer Cynorthwywyr Cefnogi Dysgwyr i gefnogi ein dysgwyr sy'n oedolion ar ein cyrsiau Gwaith Ieuenctid mewn lleoliadau ledled Cymru ac ar-lein. Byddwch yn cefnogi ac yn cynorthwyo dysgwyr yn unol â'u hanghenion, polisïau a gweithdrefnau sefydliadol, a meini prawf asesu pwnc. Byddwch yn sefydlu perthynas gwaith adeiladol ac effeithiol gyda'r dysgwyr, gan weithio mewn partneriaeth â ac o dan gyfarwyddyd tiwtoriaid y dosbarth. Byddwch yn gweithredu gweithgareddau dysgu wedi'u cynllunio a/neu raglenni addysgu fel y cytunwyd gyda'r tiwtoriaid.

Mae rôl Cynorthwywyr Cefnogi Dysgwyr yn rôl amrywiol, ymarferol lle byddwch yn gweithio’n annibynnol yn ogystal â gyda thîm y Ieuenctid, Cymuned a Gwaith Chwarae.

Byddwch yn gyfrifol am (ond nid yn gyflawn):

- Cefnogi a chynorthwyo dysgwyr yn unol ag anghenion y dysgwyr ac polisïau a gweithdrefnau Addysg Oedolion Cymru
- Sefydlu perthnasoedd gwaith adeiladol ac effeithiol gyda dysgwyr a rhyngweithio â nhw yn unol â'u hanghenion unigol, a helpu i feithrin eu hyder a gwella hunan-barch
- Cefnogi dysgwyr mewn gweithgareddau ymarferol amrywiol yn unol â meini prawf asesu pwnc y cwrs

Os oes gennych y sgiliau cywir, ac eisiau gweithio mewn maes hynod werth chweil lle mae eich gweithredoedd yn gwneud gwahaniaeth i bobl ledled Cymru, yna byddem wrth ein bodd yn derbyn eich cais.

Sut i wneud cais

Ymgeisiwch erbyn 12yp Dydd Mawrth 3ydd Chwefror gan ddefnyddio'r ffurflen gais ar gael ar wefan Addysg Oedolion Cymru - nodwch nad ydym yn derbyn CV. Ceir rhagor o fanylion am y rôl ynghyd â manyleb swydd a person yn y pecyn cais.

Cyfweliadau i'w cynnal wythnos cychwyn 9fed Chwefror.

Mae Addysg Oedolion Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a thyfu ei weithlu dwyieithog. Gellir cyflwyno ceisiadau am unrhyw swydd yn Gymraeg neu Saesneg. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn y naill iaith neu'r llall yn cael eu trin yn gyfartal.

Mae safbwyntiau a phrofiadau amrywiol yn hanfodol i’n llwyddiant, ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o unrhyw gefndir sydd â’r profiad a’r sgiliau sydd eu hangen i gyflawni’r rôl hon. Rydym yn hapus i drafod unrhyw addasiadau rhesymol gallai fod eu hangen ar unigolion yn ystod y broses recriwtio, ar gychwyn y swydd, neu unwaith y byddant yn y swydd.

Apply for this job