Teaching Assistant Level 2 – Ysgol Dyffryn Aeron
| Posting date: | 19 January 2026 |
|---|---|
| Salary: | £25,185 per year, pro rata |
| Hours: | Full time |
| Closing date: | 22 January 2026 |
| Location: | Ysgol Dyffryn Aeron |
| Remote working: | On-site only |
| Company: | Cyngor Sir Ceredigion County Council |
| Job type: | Temporary |
| Job reference: | REQ106426 |
Summary
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:
- Ymwneud ag anghenion personol y disgyblion, a gweithredu rhaglenni
personol perthnasol, gan gynnwys materion cymdeithasol, iechyd, corfforol,
hylendid, cymorth cyntaf a lles.
- Goruchwylio a chefnogi disgyblion ag anghenion addysgol arbennig gan
sicrhau eu bod yn ddiogel a bod ganddynt fynediad at ddysgu.
- Cynorthwyo gyda datblygu, gweithredu ac adolygu Cynlluniau
Addysg/Ymddygiad Unigol a rhaglenni Gofal Personol.
- Rhoi adborth i ddisgyblion ynghylch cynnydd, cyflawniad, ymddygiad, presenoldeb, ac ati.
- Hyrwyddo cynhwysiant a derbyniad i’r holl ddisgyblion.
- Annog disgyblion i ryngweithio ag eraill ac i gymryd rhan mewn
gweithgareddau o dan arweiniad yr athro neu’r athrawes.
- Annog disgyblion i weithredu’n annibynnol, fel y bo’n briodol.
Rydym am benodi unigolyn sydd â:
- Sgiliau rhifedd/llythrennedd da.
- Cymryd rhan mewn cyfleoedd datblygu a hyfforddi.
- Gweithio’n adeiladol a hyblyg yn rhan o dîm, deal cyfrifoldebau a
swyddogaethau’r ystafell ddosbarth a’ch safle bersolol o fewn y swyddogaeth hynny.
Fe fydd yr ymgeisydd delfrydol yn mwynhau gweithio mewn amgylchedd prysur, drwy ddefnyddio’u menter, gydag rhagolwg bositif a gwir ddiddordeb yn cefnogi anghenion dysgu’r disgyblion.
I ddarllen mwy o gwybodaeth am y rôl hon, gweler ein gwefan gyrfaoedd.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â’r Pennaeth, Ms Nia Lloyd Thomas neu Miss Ffion Evans, (Dirprwy Bennaeth / CADY), ar 01545 908908 neu Thomasn60@hwbcymru.net / EvansF80@dyffrynaeron.ceredigion.sch.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Proud member of the Disability Confident employer scheme