Swydd Cynorthwy-ydd Dosbarth / Dysgu
| Posting date: | 08 January 2026 |
|---|---|
| Salary: | Not specified |
| Additional salary information: | Graddfa 3 Pwyntiau 3-6 (pro rata 30.8 awr yr wyth |
| Hours: | Full time |
| Closing date: | 22 January 2026 |
| Location: | Ystum Taf, Cardiff, CF14 2JL |
| Remote working: | On-site only |
| Company: | eTeach UK Limited |
| Job type: | Contract |
| Job reference: | 1528419 |
Summary
Swydd Cynorthwy-ydd Dosbarth / DysguGraddfa 3 Pwyntiau 3-6
(pro rata 30.8 awr yr wythnos / 39 wythnos)
Mae’r ysgol yn awyddus i benodi unigolyn brwdfrydig i swydd llawn amser yn yr Adran Gynnal Dysgu. Dyma gyfle arbennig i weithio o fewn tim cynnal sydd â’u bryd ar gynorthwyo disgyblion yn eu dysgu ac i wella sgiliau sylfaenol disgyblion mewn sesiynau un i un, mewn grwpiau bychain ac o fewn yr ystafell ddosbarth.
Mae’r Adran Gynnal Dysgu yn cynorthwyo nifer o ddisgyblion i sicrhau fod eu mynediad at addysg yn rhwydd ac yn llifo yn fwy hwylus gyda chymorth oedolyn ac arweiniad unigol. Mae rhai disgyblion â thrafferthion sgiliau sylfaenol, megis llythrennedd neu rifedd a disgyblion eraill angen cymorth corfforol neu emosiynol. Mae disgyblion sy’n derbyn cymorth o fewn yr adran yn gwerthfawrogi’r gynhaliaeth ac yn gwneud cynnydd da gydag arweiniad ac yn llwyddo i ymdopi a llwyddo gyda gofynion y cwricwlwm.Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus gael brwdfrydedd ac awydd clir i weithio gyda phlant a phobl ifanc er mwyn gwneud gwahaniaeth i’w datblygiad a’u cynnydd o fewn yr ysgol. Byddwn yn edrych am unigolyn dynamig sydd yn gweithio yn dda fel rhan o dîm ac sydd â’r weledigaeth fod addysg yn gallu gwneud gwahaniaeth i fywyd a chyfleoedd plant a phobl ifanc. Mae angen amynedd i weithio gyda phlant sy’n gallu teimlo’n rhwystredig o fewn ysgol a’r ddawn i argyhoeddi a chymell unigolion i roi o’u gorau ac i ddyfalbarhau er mwyn llwyddo.
Byddwn yn hapus iawn i ddarparu hyfforddiant a chynhaliaeth i berson sy’n chwilio am ddatblygu gyrfa ym myd addysg. Yn sicr, mae’r swydd a’r ysgol yn cynnig datblygiad gyrfa gyffrous ac unigryw.
Yn ogystal mae’r adrannau yn frwd iawn i roi profiadau i ddisgyblion o fywyd y tu hwnt i wersi ffurfiol drwy weithdai ac ymweliadau â lleoedd o ddiddordeb yn lleol ac i ymwneud â phrofiadau sy’n cyfoethogi eu profiad o fyd addysg ffurfiol. Edrychwn am unigolyn fyddai’n frwd i gyfrannu yn llawn at fywyd allgyrsiol a chyfoethog yr ysgol.
Os hoffech fwy o fanylion am y swydd neu am sgwrs anffurfiol cysylltwch â’r Pennaeth Gweithredol, Mr Matthew Evans.
Proses Ymgeisio
Gellid ymgeisio am y swydd drwy ffurflen a llythyr cais yn mynegi diddordeb am ymgymryd â’r swydd. Gellir sôn am brofiad perthnasol ar gyfer y swydd ynghyd â’r weledigaeth ar sut y gellir cyfrannu ymhellach yng nghyd-destun cymuned yr ysgol.