Menu

Weldiwr / ‘Fabricator’

Job details
Posting date: 17 December 2025
Salary: £25,900 to £27,560 per year
Hours: Full time
Closing date: 16 January 2026
Location: LL48 6HT
Remote working: On-site only
Company: Festiniog Railway Company
Job type: Permanent
Job reference:

Apply for this job

Summary

Yma ar Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri (RhFfE), rydym yn edrych i gyfnerthu ein safle fel un o brif atyniadau twristiaeth yng Nghornel Llaw Chwith Uchaf Cymru. Mae ein Gweithdai Boston Lodge yn darparu cyfuniad unigryw o adeiladu modern arloesol a blaengar a chadw a dehongli treftadaeth. Rydym yn falch o gyhoeddi cyfle prin a chyffrous i rywun ymuno â'r staff parhaol sy'n gweithio yn yr amgylchedd unigryw hwn.

Rydym am recriwtio weldiwr / ‘fabricator’ i ymuno â'n tîm gweithdy peririanneg. Mae'r gweithdai yn gyfrifol am adeiladu a chynnal fflyd y Cwmni o locomotifau stêm a disel yn unol â pholisïau a chynlluniau cyfredol a datblygol Cwmni Rheilffordd Festiniog, ac maent hefyd yn gwneud gwaith contract ar gyfer Rheilffyrdd Treftadaeth eraill a sefydliadau cysylltiedig.

Bydd y swydd barhaol, amser llawn hon wedi'i leoli yng Ngweithdai Boston Lodge, Minffordd, ger Porthmadog.

Gallwn ei gynnig i chi:
• Cyflogau o 25,900 - £27,560 y flwyddyn yn dibynnu ar brofiad
• 40 awr yr wythnos, fel arfer Dydd Llun i Dydd Gwener, efallai y bydd angen gweithio ar benwythnosau yn achlysurol
• leiaf 28 diwrnod o wyliau â thâl, gan gynnwys yr holl wyliau banc a gwyliau cyhoeddus
• Cofrestru yng nghynllun pensiwn y cwmni ar ôl cyfnod cymhwyso
• Cyflog salwch uwch y cwmni
• Buddion teithio ar RhFfE ac ar reilffyrdd cenedlaethol yn unol â'r rheolau Teithio Staff Rheilffordd a oedd ar waith ar adeg eu cyflogi.

Rhaid bod gan ymgeiswyr ‘NVQ’ lefel 2 neu'n uwch mewn ‘Fabrication’ a Weldio; a gallu defnyddio prosesau MIG, TIG a weldio arc. Mae'r gallu i ddefnyddio prosesau torri plasma ac nwy thanwydd ‘oxy’ yn ddymunol. Rhaid i ymgeiswyr fod yn gyfarwydd â gweithio i luniadau saernïo technegol, a defnyddio blaengaredd eu hunain i adeiladu eitemau yn ôl y gofyn o frasluniau a chyfarwyddiadau llafar, gyda'r gallu i gynhyrchu i oddefiadau llym yn ôl gofynion pob tasg. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn dangos diddordeb a thueddfryd i ddysgu sgiliau newydd a gwahanol wrth weithgynhyrchu locomotifau rheilffordd a thasgau cysylltiedig eraill.

Sgiliau craidd:
• ‘NVQ’ lefel 2 neu'n uwch mewn Ffabrigo a Weldio, neu gymhwyster cyfatebol
• Profiad profedig mewn saernïo ymarferol a gwaith metel
• Sgiliau cyfathrebu a trefnu da
• Sgiliau rheoli amser da
• Llythrennol TG
• Bydd y gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg yn ddymunol

Proud member of the Disability Confident employer scheme

Disability Confident
A Disability Confident employer will generally offer an interview to any applicant that declares they have a disability and meets the minimum criteria for the job as defined by the employer. It is important to note that in certain recruitment situations such as high-volume, seasonal and high-peak times, the employer may wish to limit the overall numbers of interviews offered to both disabled people and non-disabled people. For more details please go to Disability Confident.

Apply for this job