Menu

Cynorthwy-dd Addysgu - Lefel 3 - YGG Awel Taf

Job details
Posting date: 16 December 2025
Salary: Not specified
Additional salary information: Gradd 6 (£28,142 x 71.22%)
Hours: Full time
Closing date: 02 January 2026
Location: Pontypridd, Rhondda Cynon Taff, CF37 5DB
Remote working: On-site only
Company: eTeach UK Limited
Job type: Contract
Job reference: 1526436

Apply for this job

Summary

Ysgol Gynradd Gymraeg Awel Taf
Cynorthwyydd Addysgu (Lefel 3)
Dros dro hyd at 31ain o Awst 2026
Oriau: 30 awr yr wythnos (Amser Tymor yn Unig)
Cyflog: Gradd 6 (£28,142 x 71.22%)Dyddiad dechrau: Cyn gynted ag sy’n bosib
Nifer ar y Gofrestr: 346
Ydych chi’n barod am yr her nesaf? Dewch i weithio gyda ni yn Ysgol Gynradd Gymraeg Awel Taf.
Mae’r Pennaeth a’r Corff Llywodraethol am benodi unigolyn hyblyg a dyfeisgar sy’n rhannu’r un angerdd am ddysgu â thîm yr ysgol ac sy’n ymdrechu i geisio rhagoriaeth ym mhob dydd.
Rydym yn chwilio am:
• Unigolyn, sydd ag ethos Cymreig cryf ac angerdd i ddiogelu dyfodol y Gymraeg yn ardal Pontypridd a’r ardal ehangach, i gwrdd â'r weledigaeth o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
• Unigolyn sydd yn mwynhau gweithio gyda phlant o bob oedran, yn dal i wenu beth bynnag sy'n digwydd, yn greadigol, yn ddigynnwrf ac yn wir yn credu bod pob plentyn bob amser yn bwysig!
Gallwn gynnig y canlynol i chi:
• Plant brwdfrydig, chwilfrydig, a chroesawgar
• Mynediad i ystafelloedd dosbarth modern, llawn offer ac adnoddau sy'n cefnogi eich dulliau addysgu ac yn cyfoethogi'r profiad dysgu.
• staff gweithgar, ymroddedig a medrus
• rhieni a chorff llywodraethol cefnogol
• ymrwymiad i'ch datblygiad proffesiynol
Gwahoddir ymgeiswyr ar y rhestr fer i fynychu cyfweliad yn yr ysgol ar ddydd Gwener 16eg o Ionawr 2025.
Os oes gyda chi unrhyw ymholiadau ynglŷn â'r broses ymgeisio, ffoniwch yr Ysgol.Y dyddiad olaf ar gyfer derbyn ceisiadau yw dydd Gwener, 27ain o Fehefin 2025.

Apply for this job