Menu

Cynorthwy-ydd Gweinyddol Adnoddau Dynol

Job details
Posting date: 10 December 2025
Salary: £29,064 to £31,022 per year
Hours: Full time
Closing date: 09 January 2026
Location: St. Asaph, Denbighshire
Remote working: Hybrid - work remotely up to 3 days per week
Company: North Wales Fire and Rescue Service
Job type: Temporary
Job reference:

Apply for this job

Summary

CYNORTHWYYDD GWEINYDDOL ADODDAU DYNOL
Pencadlys Llanelwy
Contract Cyfnod Penodol – 12 mis, 37 awr yr wythnos
Graddfa GTAGC 05 £29,064 - £31,022 y flwyddyn

Rydyn ni’n chwilio am weinyddwr profiadol a fyddai’n hoffi gweithio mewn amgylchedd Adnoddau Dynol. Mae hon yn rôl mewn amgylchedd cyflym. Byddwch yn gweithio i gyflogwr i fod yn falch ohono ac yn gwasanaethu eich cymuned leol. Dyma gyfle gwych i chi i ymuno â'r Uned Adnoddau Dynol a Chefnogi Busnes o fewn Pencadlys ein Gwasanaeth yn Llanelwy.

Byddwch yn gyfrifol am weinyddu pob agwedd ar waith yr adran Anoddau Dynol gan gynnwys recriwtio a rheoli presenoldeb. Bydd eich dyletswyddau'n cynnwys bod yn bwynt cyswllt cyntaf i ymholiadau Anoddau Dynol, gan ddarparu cyngor a chanllawiau a sicrhau cyfrinachedd. Fel sefydliad dwyieithog, bydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus fod â sgiliau Cymraeg Lefel 2 y gellir ei gyflawni yn eich cyfnod prawf. Bydd gofyn i chi ddelio â materion sensitif a chymhleth yn ogystal â chynnal system ffeilio electronig a phapur. Mae pob diwrnod yn wahanol!

I fod yn llwyddiannus yn y rôl hon, byddwch yn weinyddwr medrus sy’n dda am roi sylw i fanylion. Bydd yn rhaid i chi feddu ar sgiliau trefnu rhagorol i reoli eich llwyth gwaith a chadw at derfynau amser. Bydd angen i chi fod yn hyblyg ac yn barod i addasu i newid er mwyn delio â cheisiadau wrth iddyn nhw godi. Bydd angen i chi allu gweithio'n annibynnol ac o’ch pen a’ch pastwn eich hun.

Sylwch fod y swydd hon yn amodol ar wiriad Safon DBS a geirda boddhaol. Os derbynnir datgeliad cadarnhaol (wedi'i wario neu heb ei wario), bydd dull sy'n seiliedig ar risg o reoli'r wybodaeth yn cael ei fabwysiadu gan y Gwasanaeth ac yna gwneir penderfyniad rhesymol a chymesur ynghylch y gweithiwr presennol neu ddarpar gyflogai. Mae mwy o wybodaeth ar gael yma.

I wneud cais, cwblhewch a chyflwynwch eich pecyn cais drwy e-bost i: recruitment@tangogleddcymru.llyw.cymru

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn y ffurflen gais yw 12.00 hanner dydd, 09/01/2026 a disgwylir i'r cyfweliadau ddigwydd ar 28/01/2026 & 29/01/2026

Byddwn yn glynu wrth y dyddiad cau yn llym ac ni fydd eithriadau.

Apply for this job