Cynorthwyydd Cylch Meithrin Dechrau’n Deg Gwdihw, Brynithel
| Posting date: | 05 December 2025 |
|---|---|
| Salary: | £12.41 to £12.61 per hour |
| Hours: | Part time |
| Closing date: | 18 December 2025 |
| Location: | Blaenau Gwent, Wales |
| Remote working: | On-site only |
| Company: | Mudiad Meithrin Cyf |
| Job type: | Temporary |
| Job reference: |
Summary
Ydy’r rôl hon yn addas i chi?
Rydym yn chwilio rywun:
• sy’n garedig, brwdfrydig ac ymroddedig
• sy’n mwynhau gweithio gyda phlant bach
• sydd â natur ofalgar a’r gallu i chwarae, dysgu a meithrin perthnasoedd cadarnhaol
• sydd eisiau gweithio mewn amgylchedd Cymraeg, croesawgar a llawn cariad
Beth fyddwch chi’n ei wneud?
Fel Cynorthwyydd Meithrin, byddwch yn chwarae rhan allweddol yn gofalu am blant rhwng 2-4 mlwydd oed hyd at oed ysgol. Byddwch yn rhan o dîm cyfeillgar, ac yn gyfrifol am gefnogi pob plentyn i ddatblygu, dysgu a chwarae mewn awyrgylch croesawgar, diogel, hwyliog a llawn cariad, lle mae’r Gymraeg yn greiddiol i bopeth a wnawn.
Eich prif ddyletswyddau:
Byddwch yn gweithio gyda’r Dirprwy Reolwr Talaith ac Arweinydd i:
• Cefnogi’r Arweinydd i sicrhau darpariaeth a gwasanaeth o’r safon uchaf drwy ddatblygu gweithgareddau a chyfleusterau i’w botensial llawn
• Darparu gofal ac addysg o’r radd flaenaf i blant tra yn ein gofal
• Cefnogi’r Arweinydd i sicrhau cydymffurfiaeth a chynlluniau Dechrau’n Deg, Addysg Feithrin a’r Cynnig Gofal Plant
• Sicrhau naws ac awyrgylch Cymraeg a Chymreig o fewn y ddarpariaeth, gan weithredu’r Dull Trochi
• Gweithredu egwyddorion a nodau Cwricwlwm i Gymru
• Sicrhau gweithredir canllawiau, gweithdrefnau a pholisïau y ddarpariaeth
• Sicrhau bod y ddarpariaeth yn cydymffurfio a Safonau Gofynnol a Rheoliadau Gofal Plant a Chwarae Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC)
• Cyfrannu at gynllunio gwaith a gweithgareddau’r feithrinfa yn y tymor byr a’r tymor hir
• Gweithredu cynlluniau amrywiol megis y Curiosity Approach, Macaton cyfeillgar, Elklan, Jabadeio, Cyn Ysgol Iach, Cynllun Gwen
• Dilyn gweithdrefnau Diogelu ac Amddiffyn plant ar bob adeg
• Cefnogi’r tîm i fonitro, gwerthuso ac asesu cynnydd a datblygiad pob plentyn
• Hyrwyddo cydraddoldeb a chynhwysiant, gwrthod rhagfarn, a mynd i’r afael â materion yn unol â Pholisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
• Mynychu cyfarfodydd yn ôl yr angen a mynychu hyfforddiant yn achlysurol ar benwythnosau
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau ychwanegol sy’n berthnasol i’r swydd yn ôl cyfarwyddyd yr Arweinydd
Proud member of the Disability Confident employer scheme