Menu

Dadansoddwr Plismona sy’n Canolbwyntio ar y Plentyn

Job details
Posting date: 02 December 2025
Salary: £32,613 to £41,487 per year
Hours: Full time
Closing date: 14 December 2025
Location: Carmarthen, Carmarthenshire
Remote working: Hybrid - work remotely up to 3 days per week
Company: Dyfed-Powys Police
Job type: Permanent
Job reference:

Apply for this job

Summary

Heddlu
Heddlu Dyfed Powys
Math o rôl
Staff Heddlu
Maes Busnes / Adran
Plismona Cymdogaethau ac Atal
Lleoliad
Pencadlys
Hyblyg/Sefydlog/Sefydlog a Gweithredol
Hyblyg
Gradd
E/F
Cyflog
£32,613 - £41,487
Rhan/Llawn Amser
Llawn Amser
Oriau'r Wythnos
37
Math o Gytundeb
Parhaol
Lefel o allu'n y Gymraeg sy'n angenrheidiol?
1
Dyddiad Cyfweliad
7 Ionawr 2026
Dyddiad cau
14/12/25 23:55

Disgrifiad Hysbysiad Swydd
Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â ni fel Dadansoddwr Plismona sy’n Canolbwyntio ar y Plentyn yn Atal

Beth fyddwch chi’n ei wneud?

Bod yn gyfrifol am gasglu a dadansoddi gwybodaeth, gweithio dan bwysau ac i derfynau amser tynn, a pharatoi a chyflwyno adroddiadau dyddiol.
Defnyddio hyfforddiant dadansoddol arbenigol i nodi a rhagweld ‘risg’ a ‘niwed’ i’r heddlu yn dactegol ac yn strategol, gan gynnwys nodi mannau problemus, dioddefwyr/troseddwyr mynych, patrymau troseddu, bylchau mewn cudd-wybodaeth a nodi plant a phobl ifanc sydd mewn perygl o ymuno â’r system cyfiawnder troseddol, a gwneud argymhellion effeithiol i liniaru’r bygythiadau a nodwyd.
I adeiladu’n broffesiynol a pharhaus arbenigedd a gwybodaeth sy’n ymwneud â maes arbenigol, gan gynnwys arferion gorau ac ymchwil yn genedlaethol.
Os ydych chi’n credu bod gennych chi’r sgiliau a’r angerdd ar gyfer y swydd hon, cliciwch y ddolen isod i weld y proffil swydd. Os ydych chi’n credu mai hon yw’r swydd i chi, cwblhewch ffurflen gais, gan roi tystiolaeth yn erbyn y cymwysterau gofynnol (sydd ar dudalen olaf y proffil swydd fel arfer).

Cyfeiriwch hefyd at y canllawiau ar gyfer ymgeiswyr a atodir isod, sy’n rhoi mwy o fanylion ynglŷn â sut i gwblhau’ch cais.

https://www.dyfed-powys.police.uk/SysSiteAssets/media/downloads/dyfed-powys/careers/guidance-Documents/police-staff-attainments-welsh-.pdf

Beth allwch chi ddisgwyl?

Bydd gan bob dechreuwr newydd gyfaill/mentor i’ch cefnogi pan fyddwch chi’n ymuno
24 diwrnod o wyliau blynyddol (sy’n codi i 29 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth) ynghyd ag 8 gŵyl gyhoeddus
24 diwrnod ychwanegol o oriau hyblyg (gan ddibynnu ar y swydd)
Mynediad at gampfeydd a dosbarthiadau ffitrwydd yn y gweithle
Gweithio hybrid/ystwyth (gan ddibynnu ar y swydd)
Gostyngiadau gan sawl adwerthwr drwy’r Cynllun Golau Glas
Cynllun Beicio i’r Gwaith
Cefnogaeth gan ein Canolfan Iechyd a Lles, gan gynnwys Swyddogion Lles, Cwnsela a Ffisiotherapi
Cynllun pensiwn
Rhwydweithiau Cymorth Staff
Cyfleoedd gweithio hyblyg
Hawliau cyfnod mamolaeth/tadolaeth/mabwysiadu hael
Darpariaethau tâl salwch
Mae pob ymgeisydd yn ddarostyngedig i wiriadau meddygol a fetio.

Amrywiaeth a’r Gymraeg

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn gyflogwr cynhwysol sy’n anelu i gael gweithlu sy’n cynrychioli’r cymunedau mae’n eu plismona a’u gwasanaethu. Credwn y byddwn yn elwa o’r amrywiaeth o feddyliau, ymagweddau a sgiliau y gall amrywiaeth gyflwyno, sy’n medru’n helpu i gyflwyno gwell gwasanaeth plismona.

Yr ydym yn parhau i weithio tuag at greu diwylliant diogel, agored sy’n foesegol ac yn cynnwys pawb. Mae gennym amrediad o grwpiau a rhwydweithiau staff i roi cyngor a chymorth penodol, a’n nod yw recriwtio pobl dalentog ag amrywiaeth eang o sgiliau a phrofiadau. Yr ydym yn croesawu ceisiadau o bob cefndir a chymuned, ni waeth am oed, rhyw, ethnigrwydd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd neu fynegiant rhywedd, anabledd, statws cymdeithasol neu gredoau crefyddol.

Cliciwch fan hyn i weld pa un ai a ydych chi’n gymwys ar gyfer Gweithredu Cadarnhaol ai peidio.

Yr ydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad dwyieithog ac ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Pwynt gwybodaeth:

Os oes angen rhagor o wybodaeth am y swydd hon arnoch, peidiwch ag oedi i gysylltu: recruitment@dyfed-powys.police.uk

Neu ymunwch â’n digwyddiad recriwtio galw heibio wythnosol ar ddydd Mercher o 11y.b. – 11:30y.b. fan hyn.

Apply for this job