Menu

Derbynnydd (Rhan amser) x 2

Job details
Posting date: 26 November 2025
Salary: £23,815 to £23,881 per year, pro rata
Hours: Part time
Closing date: 03 December 2025
Location: Bangor, Gwynedd
Remote working: On-site only
Company: Bangor University
Job type: Permanent
Job reference: (Cyf: BU03908)

Apply for this job

Summary

Prifysgol Bangor

Gwasanaethau Myfyrwyr ac Academaidd: Gwasanaethau Campws: ⁠Y Ganolfan Rheolaeth

Derbynnydd (Rhan amser) x 2

(Cyf: BU03908)

Graddfa 3: £23815 - £23881 pro rata ynghyd â thaliad atodol o 50c yr awr

Rydym yn awyddus i benodi dau dderbynnydd parhaol, rhan amser i weithio 16 awr yr wythnos yn nerbynfa'r Ganolfan Rheolaeth.

Bydd y dyletswyddau'n cynnwys gweithio wrth y dderbynfa yn y Ganolfan Rheolaeth, cyfarfod a chyfarch pawb sy’n ymweld â'r ganolfan a delio'n effeithlon â phob unigolyn sy'n cysylltu â'r ganolfan dros y ffôn neu e-bost.

Dylai fod gan ymgeiswyr brofiad o weithio mewn gwesty neu amgylchedd dan arweiniad cwsmeriaid a phrofiad o fod yn bwynt cyswllt cyntaf. Rhaid i ymgeiswyr hefyd fod â phrofiad o ddelio ag uwch aelodau staff i drafod materion sensitif a chyfrinachol. Dylai fod gan ymgeiswyr o leiaf 5 cymhwyster TGAU gyda graddau A* - C (gan gynnwys Saesneg a Mathemateg), neu NVQ lefel 2 (neu gymhwyster cyfwerth) mewn maes pwnc perthnasol neu brofiad cyfatebol.

Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau yn y swydd cyn gynted â phosib.

Mae gallu siarad Cymraeg yn hyderus i gyflawni rhai tasgau yn hanfodol ar gyfer y swydd hon, e.e. siarad â staff a myfyrwyr, ateb galwadau ffôn, delio ag ymholiadau brys yn Gymraeg.

Ystyrir ceisiadau hefyd i wneud y swydd yn rhan amser neu rannu’r swydd.

Derbynnir ceisiadau ar-lein yn unig, trwy ein gwefan recriwtio, jobs.bangor.ac.uk. Ond os cewch drafferth defnyddio’r wefan oherwydd anabledd, mae ffurflenni cais papur ar gael trwy ffonio 01248 382646.

Gellir gwneud ymholiadau anffurfiol trwy gysylltu â’r canlynol: Sarah Cropper, Swyddog y Lleoliad. E-bost: sarah.cropper@bangor.ac.uk

Wedi Ymrwymo i Gyfle Cyfartal.

Apply for this job