Head Chef
| Posting date: | 19 November 2025 |
|---|---|
| Hours: | Full time |
| Closing date: | 03 December 2025 |
| Location: | Conwy County, Wales |
| Remote working: | On-site only |
| Company: | Conwy County Borough Council |
| Job type: | Permanent |
| Job reference: | REQ006901 |
Summary
Ydych chi yn Gogydd talentog ac uchelgeisiol, sy’n chwilio am swydd unigryw a fydd yn cynnig ystod amrywiol o gyfleoedd i chi mewn sefydliad amrywiol, cyflym ac sy’n rhoi blaenoriaeth i ansawdd? O gynllunio a chynnal gwleddoedd ar gyfer cynadleddau i sicrhau bod ein bwyty i 60 o bobl yn plesio ein cwsmeriaid, fe welwch fod pob diwrnod yn wahanol ac y gwneir defnydd cyson o’ch sgiliau coginio ardderchog. Peidiwch â phoeni os nad oes gennych chi brofiad llawn ym mhob elfen o’n gwasanaeth Bwyd a Diod, rydym yn awyddus i glywed gan bobl sydd â syniadau cyffrous, a all arwain tîm a sy’n awyddus i ddatblygu eu gyrfa.
Byddwch yn arwain tîm o 9 aelod o staff yn y gegin, gan sicrhau bod Hylendid Bwyd ac Iechyd a Diogelwch Cyffredinol yn cael blaenoriaeth ynghyd â datblygu sgiliau a morâl staff. Fel chwaraewr allweddol yn y timau Theatrau a Digwyddiadau, byddwch yn rhwydweithiwr ardderchog, yn chwaraewr tîm ac yn feddyliwr arloesol a chadarnhaol. Gan weithio ar sail shifftiau, byddwch yn sicrhau fod gennych chi a’ch tîm gydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith. Yr oriau yw 37 awr yr wythnos, ar sail oriau blynyddol, cyfartalog. Byddwch hefyd yn elwa o dâl uwch ar benwythnosau, gwyliau banc ac ar ôl 9pm ar ddyddiau’r wythnos. Hefyd, rydym ar gau ar Ddydd Nadolig a Dydd Calan gydag ychydig iawn o weithio ar ddydd Sul.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â ni yn Venue Cymru, canolfan gelfyddydau a digwyddiadau brysuraf y rhanbarth, sy’n cynnwys theatr gyda 1,500 o seddi, arena â lle i 2,500 ac ystod lawn o ystafelloedd cynadledda a digwyddiadau o’r safon uchaf. Rydym yn cyflwyno rhaglen gelfyddydol amrywiol, o Sioeau’r West End i’n perfformiadau ein hunain gan ein Pobl Ifanc Greadigol, ac rydym yn cynnal cynadleddau a digwyddiadau proffil uchel drwy gydol y flwyddyn.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Ben Hankey Rheolwr Gwasanaethau Blaen Tŷ 01492 879771 ben.hankey@venuecymru.co.uk
Gofynion y Gymraeg: Mae’r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o’n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd. Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a’ch annog i ddefnyddio’ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i’ch cefnogi chi ymhellach.
Work base: Venue Cymru
Are you a talented and ambitious Chef, looking for a unique position which will provide you with a diverse range of opportunities in a fast-paced, quality-driven and varied organisation? From planning and running conference banquets to ensuring our 60-cover restaurant delights our customers, you will find that every day is different and that your excellent culinary skills are constantly put to good use. Don’t worry if you haven’t got full experience in every element of our F&B service, we want to hear from people who have exciting ideas, can lead a team and who are keen to develop their career.
You will be leading a kitchen brigade of 9 staff, making sure that Food Hygiene and General Health & Safety are prioritised alongside skills development and staff morale. As a key player in our Theatres and Events teams, you will be an excellent networker, team player and a positive, innovative thinker. Working on a shift basis, you will make sure that you and your team have a good work-life balance. The hours are 37 hours a week, on an averaged, annualised hours basis. You will also benefit from enhanced pay at the weekends, on bank holidays and after 9pm weekdays. In addition, we are not open on Christmas day or New Years Day with limited Sunday working.
The successful applicant will be joining us at Venue Cymru, the regions busiest arts and events centre, comprising of a 1,500 seat theatre, 2,500 capacity arena and a full range of high quality conference and event spaces. We present a diverse arts programme, from West End Shows to our own Young Creatives performances, and host high profile conferences and events throughout the year.
Manager details for informal discussion: Ben Hankey Front of House Services Manager 01492 879771 ben.hankey@venuecymru.co.uk
Welsh Language Skills: The ability to communicate in Welsh is desirable for this post. We are committed to our Welsh language and are proud of our Welsh culture. We welcome applications in both Welsh and English and application forms received in either language will not be treated less favourably than each other. We’re passionate about supporting and encouraging you to use your Cymraeg whatever your level. We offer free classes at all levels, in-person and on-line to support you.
Proud member of the Disability Confident employer scheme