Menu

Tiwtor Gwaith Ieuenctid

Job details
Posting date: 26 September 2025
Salary: £30.76 per hour
Hours: Part time
Closing date: 09 October 2025
Location: Rhyl, Denbighshire
Remote working: On-site only
Company: Addysg Oedolion Cymru I Adult Learning Wales
Job type: Contract
Job reference:

Apply for this job

Summary

Tiwtor Gwaith Ieuenctid
Gogledd Cymru
Cytundeb Oriau Amrywiol
£30.76 yr awr (yn cynnwys tal gwyliau)

Trosolwg Rôl

Mae gennym gyfle gwych ar gyfer tiwtoriaid cymwysedig a medrus i ddarparu cyrsiau Gwaith Ieuenctid i ddysgwyr ar draws Gogledd Cymru. Byddwch yn cynllunio, paratoi a darparu cyrsiau a rhaglenni addysgu yn unol ag anghenion dysgwyr a phrosesau a gweithdrefnau ansawdd. Byddwch yn darparu addysg o ansawdd uchel gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau dysgu ac amrywiaeth o ddulliau asesu a fo’n briodol ac yn unol ag anghenion y dysgwyr a gofynion y cyrff dyfarnu. Byddwch yn sicrhau eich bod yn darparu adborth clir ac adeiladol o fewn amserlen briodol.


Yr hyn y gallwn ei gynnig i chi:

• £30.76 yr awr (yn cynnwys tâl gwyliau)
• Oriau hyblyg
• Cynllun Pensiwn Athrawon
• Datblygiad Proffesiynol Parhaus

Sut i wneud cais:
Gwnewch gais drwy ddefnyddio'r ffurflen gais ar-lein neu'r cais fersiwn Word a'i ddychwelyd i Recruitment@adultlearning.wales neu lanlwytho drwy ein gwefan

Sylwch na fydd CV heb ffurflen gais wedi'i chwblhau yn dderbyniol.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 12.00yh Dydd Iau 9fed Hydref 2025

Proses Dethol a Recriwtio: 
Cynhelir cyfweliadau wythnos cychwyn 13eg Hydref. Os na allwch fynychu ar y dyddiad hwn, gwnewch yn siŵr eich bod yn nodi hyn ar eich cais ac yn cadarnhau eich argaeledd.

Mae Addysg Oedolion Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a thyfu ei weithlu dwyieithog. Gellir cyflwyno ceisiadau am unrhyw swydd yn Gymraeg neu Saesneg.
Bydd ceisiadau a gyflwynir yn y naill iaith neu'r llall yn cael eu trin yn gyfartal.

Rydym yn hapus i drafod unrhyw addasiadau rhesymol gallai fod eu hangen ar unigolion yn ystod y broses recriwtio, ar gychwyn y swydd, neu unwaith y byddant yn y swydd.

Apply for this job