Call Response & Support Officer
Posting date: | 24 September 2025 |
---|---|
Hours: | Full time |
Closing date: | 08 October 2025 |
Location: | Conwy County, Wales |
Remote working: | On-site only |
Company: | Conwy County Borough Council |
Job type: | Permanent |
Job reference: | REQ006801 |
Summary
Ydych chi’n chwilio am yrfa sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn?
Mae Galw Gofal yn wasanaeth dwyieithog sy’n monitro galwadau 24/7 ac yn cefnogi pobl hŷn a phobl ddiamddiffyn, drwy Teleofal, gan eu helpu i fyw’n annibynnol. Rydym hefyd yn ymdrin â galwadau tu allan i oriau ar gyfer ystod eang o wasanaethau, yn cynnwys atgyweiriadau tai, gwasanaethau cymdeithasol, priffyrdd, digartrefedd, a digwyddiadau brys, ar ran cynghorau, cymdeithasau tai, a busnesau preifat.
Fel rhan o’n tîm sy’n prysur dyfu, byddwch yn chwarae rhan hanfodol wrth ymateb i alwadau sy’n amrywio o ymholiadau cyffredinol i sefyllfaoedd difrifol megis argyfyngau meddygol, codymau a thanau mewn tai. Byddwch yn cefnogi gwasanaethau sydd wir yn bwysig.
Rydym yn chwilio am unigolyn llawn hunan-gymhelliant i ymuno â’n tîm o Swyddogion Ymateb i Alwadau a Chefnogi. Os ydych chi’n unigolyn sy’n ffynnu mewn amgylchedd prysur ac eisiau cael effaith ystyrlon, efallai mai dyma’r swydd i chi.
Beth rydym ni’n ei gynnig:
• Pecyn buddion hael yn cynnwys:
• Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
• Tâl Salwch Galwedigaethol
• Cynlluniau aberthu cyflog (ceir, Beicio i'r Gwaith)
• Arian yn ôl ar ofal iechyd
• Disgownt i staff
• Cyfleoedd ar gyfer gweithio hybrid ar ôl cyfnod prawf o 6 mis
• Hyfforddiant llawn a chefnogaeth barhaus
Beth fydd ei angen arnoch:
• Agwedd bositif a sgiliau cyfathrebu rhagorol
• Safon dda o addysg a sgiliau TG
• Hyder yn defnyddio eich menter eich hun
• Lefelau uchel o onestrwydd a chyfrinachedd oherwydd natur sensitif y gwaith
• Gallu cyfathrebu’n rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu gwirio, a bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn destun gwiriad yn unol â safonau BS7858.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Nick McCavish, Rheolwr Strategol Rhanbarthol ar 01492 575240
Gofynion y Gymraeg: Mae’r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o’n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd. Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a’ch annog i ddefnyddio’ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i’ch cefnogi chi ymhellach.
Proud member of the Disability Confident employer scheme