Uwch Swyddog Recriwtio De Cymru
Posting date: | 03 September 2025 |
---|---|
Salary: | £38,249 to £45,413 per year |
Hours: | Full time |
Closing date: | 23 September 2025 |
Location: | SA1 – opsiwn i dreulio peth amser yn gweithio o bell a drafodir ymhellach gydag ymgeiswyr yn y cyfweliad. |
Remote working: | Hybrid - work remotely up to 2 days per week |
Company: | Bangor University |
Job type: | Permanent |
Job reference: | (Cyf: BU03851) |
Summary
PRIFYSGOL BANGOR
RECRIWTIO A DERBYNIADAU’R DEYRNAS UNEDIG
Uwch Swyddog Recriwtio De Cymru
(Cyf: BU03851)
Cyflog: £38,249 - £45,413 y flwyddyn (Graddfa 7)
Mae arnom angen Uwch Swyddog Recriwtio (De Cymru) ar sail barhaol a llawn amser i gefnogi’r is-adran Marchnata a Recriwtio.
Diben y rôl hon yw ysgwyddo cyfrifoldeb penodol am ddatblygu a chyflawni cynlluniau recriwtio sy'n targedu ardaloedd daearyddol penodol, a hynny’n bennaf yn ne Cymru a chefnogi’r gwaith o wireddu uchelgais y Brifysgol i gynyddu niferoedd myfyrwyr israddedig. Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd wneud y defnydd gorau posibl o ddata a mewnwelediadau a mabwysiadu dull aml-sianel o ymgysylltu ag ysgolion. Bydd hon felly yn swydd ddeinamig a fydd yn cyfuno gweithgarwch recriwtio sydd wedi ei leoli yn y swyddfa a gweithgarwch wyneb yn wyneb ynghyd â gweithgarwch ymgysylltu â myfyrwyr. Bydd deiliad y swydd yn arloesol, yn hynod greadigol, yn llawn uchelgais ac egni ac eisiau gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i recriwtio myfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor. Bydd ganddynt hefyd sgiliau cadarn iawn wrth ymdrin â phobl er mwyn eu galluogi i ymgysylltu â darpar fyfyrwyr, meithrin partneriaethau strategol yn allanol a chydweithio’n fewnol i sicrhau fod popeth a wnânt yn ategu gwaith recriwtio a marchnata yng ngweddill y Brifysgol.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus Radd neu gymhwyster cyfatebol ynghyd â phrofiad o recriwtio myfyrwyr ym maes Addysg Uwch.
Mae gallu cyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol i'r swydd.
Mae’r swydd hon yn amodol ar gael gwiriad manylach boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Yn amodol ar drafod hynny, gall y swydd hon fod wedi'i lleoli yn ne Cymru neu ar ein Campws ym Mangor. Trwy ein fframwaith Gweithio Deinamig, bydd dewis hefyd i dreulio peth amser yn gweithio o bell (er yn aros yn y Deyrnas Unedig) i gynnal cydbwysedd bywyd a gwaith. Caiff hynny ei drafod gyda’r ymgeiswyr yn y cyfweliad.
Ystyrir ceisiadau hefyd i wneud y swydd yn rhan amser neu rannu’r swydd.
Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau yn y swydd cyn gynted â phosibl.
Dylid cyfeirio ymholiadau anffurfiol at Aimee Pritchard Robinson (E-bost - aimee.pritchard@bangor.ac.uk)
Derbynnir ceisiadau ar-lein yn unig, trwy ein gwefan recriwtio, jobs.bangor.ac.uk. Ond os cewch drafferth defnyddio’r wefan oherwydd anabledd, mae ffurflenni cais papur ar gael trwy ffonio 01248 383865.
Dyddiad cau derbyn ceisiadau: 23 Medi 2025
Wedi Ymrwymo i Gyfle Cyfartal.