Menu
Warning This job advert has expired and applications have closed.

Dirprwy Reolwr/Arweinydd Ystafell Dechrau'n Deg & Addysg Gynnar

Job details
Posting date: 27 August 2025
Salary: £25,000 to £26,000 per year
Hours: Full time
Closing date: 10 September 2025
Location: Pontypridd, Rhondda Cynon Taff
Remote working: On-site only
Company: Mudiad Meithrin Cyf
Job type: Permanent
Job reference:

Summary

Y Mudiad: Cymdeithas wirfoddol genedlaethol o Gylchoedd Meithrin, cylchoedd Ti a Fi, gofal cofleidiol a meithrinfeydd dydd Cymraeg yw Mudiad Meithrin. Y Mudiad yw’r darparwr gofal ac addysg blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg mwyaf yn y sector gwirfoddol yng Nghymru. Sefydlwyd y Mudiad ym 1971 gydag oddeutu 50 cylch. Erbyn hyn, wedi tyfu’n aruthrol, mae tua 1000 o Gylchoedd Meithrin, Cylchoedd Ti a Fi, grwpiau ‘Cymraeg i Blant’ a meithrinfeydd dan faner Mudiad Meithrin. Mae’r rhain yn darparu profiadau blynyddoedd cynnar i oddeutu 22,000 o blant bob wythnos. Yn ogystal, mae’r Mudiad yn gweithio yn agos iawn gyda rhieni er mwyn darparu cymorth a chyngor i’w galluogi i ddatblygu a chefnogi gwaith y cylchoedd yn y cartref. Er mwyn cyflawni hyn, mae Mudiad Meithrin yn elusen gofrestredig sy’n cyflogi dros 200 o bobl yn genedlaethol, gyda 2000 ychwanegol yn gweithio yn y cylchoedd eu hunain. Cefnogir y cylchoedd gan rwydwaith cenedlaethol o staff proffesiynol sy’n eu cynghori ar amrediad o faterion er enghraifft hybu ymarfer da, hyfforddiant staff a chyswllt ag Awdurdodau Lleol.
Ein gweledigaeth yw creu Mudiad lle mae grŵp amrywiol o bobl dalentog yn dewis ymuno, aros a’n hargymell fel cyflogwyr. Mudiad lle mae ein pobl yn teimlo bod ymddiriedaeth ynddynt ac wedi'u grymuso i roi eu gorau i'n haelodau, i'w gilydd ac i'w hunain. Rydym yn angerddol am sicrhau bod ein pobl yn adlewyrchu'r cymunedau rydyn ni'n eu gwasanaethu ac er mwyn cyflawni hyn anelwn at ddenu ymgeiswyr amrywiol o bob cefndir er mwyn datblygu.

Y Feithrinfa: Mae Meithrinfa Garth Olwg yn darparu gofal ac addysg blynyddoedd cynnar o ansawdd i blant o chwe wythnos oed hyd at oed ysgol mewn awyrgylch deniadol, cyfeillgar a Chymreig. Mae’r feithrinfa wedi ei gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru ac yn cael ei reoli gan is gwmni Mudiad Meithrin, sef Meithrinfeydd Cymru Cyf.

Gweler y swydd ddisgrifiad ar gyfer y swydd Dirprwy Reolwr a'r swydd Arweinydd Ystafell ar wefan Mudiad Meithrin.

Proud member of the Disability Confident employer scheme

Disability Confident
A Disability Confident employer will generally offer an interview to any applicant that declares they have a disability and meets the minimum criteria for the job as defined by the employer. It is important to note that in certain recruitment situations such as high-volume, seasonal and high-peak times, the employer may wish to limit the overall numbers of interviews offered to both disabled people and non-disabled people. For more details please go to Disability Confident.