Menu

Rheolwr Technegol A Rheolwr Prosiect Yr Ystafell Reoli

Job details
Posting date: 22 August 2025
Salary: £42,839 to £46,142 per year
Hours: Full time
Closing date: 08 September 2025
Location: St. Asaph, Denbighshire
Remote working: Hybrid - work remotely up to 2 days per week
Company: North Wales Fire and Rescue Service
Job type: Permanent
Job reference:

Apply for this job

Summary

RHEOLWR TECHNEGOL A RHEOLWR PROSIECT YR YSTAFELL REOLI

Ystafell Reoli – Y Ganolfan Gyfathrebu ar y Cyd, Llanelwy
Parhaol, 37 awr yr wythnos
GTAGC Gradd 09 £42,839 i £46,142 y flwyddyn

Rydym yn awyddus i benodi Rheolwr Technegol A Rheolwr Prosiect Yr Ystafell Reoli, a fydd yn darparu cefnogaeth dechnegol arbenigol a chefnogaeth ddatblygu i Systemau Ystafell Reoli GTAGC yn unol â chyfarwyddyd Pennaeth yr Ystafell Reoli ar y cyd â Rheolwr Systemau’r Ystafell Reoli.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn sicrhau bod Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cael budd o dechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu ac yn ei defnyddio mewn ffordd sy’n ei wneud mor effeithlon a chost-effeithiol ag sy’n bosibl. Byddwch yn Rheolwr Prosiect ar brosiectau technegol amrywiol yr Ystafell Reoli a’r adran TGCh a byddwch yn ymgymryd â thasgau rheoli prosiect technegol, ymchwil a dadansoddi yn unol â chyfarwyddyd Pennaeth yr Ystafell Reoli. Yn ogystal, byddwch yn bwynt cyswllt o fewn yr Ystafell Reoli mewn perthynas ag achrediad, polisi a gweithdrefn diogelwch Systemau’r Ystafell Reoli.

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus o leiaf ddwy flynedd o brofiad yn gweithio ar brosiectau Ystafell Reoli a TGCh mawr, a phrofiad o reoli contractwyr yn ystod camau gweithredu a chyflawni prosiectau. Os oes gennych wybodaeth a phrofiad blaenorol o weithredu polisi, strategaeth a monitro perfformiad yna byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

Dylai ymgeiswyr fod â phrofiad ymarferol o gynhyrchu adroddiadau a dadansoddi gwybodaeth reoli. Rhaid i ddeiliad y swydd allu casglu a dadansoddi gwybodaeth reoli a chyflwyno canfyddiadau i uwch reolwyr a gallu cyflwyno atebion i unrhyw broblemau a all godi. Efallai y bydd gofyn i chi weithio mewn gwahanol leoliadau sy’n perthyn i’r Gwasanaeth Tân ac Achub yn unol â chyfarwyddyd Pennaeth yr Ystafell Reoli.

Sylwch fod y swydd hon yn destun gwiriadau cyn cyflogaeth gan gynnwys Archwiliad Fetio Lefel 2 llwyddiannus gan yr Heddlu, prawf Cyffuriau ac Alcohol a geirdaon boddhaol.

I gael manylion pellach ynglŷn â'r rôl, edrychwch ar y pecyn gwybodaeth. I wneud cais, cwblhewch a chyflwynwch eich pecyn ymgeisio

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ffurflenni cais yw 12.00, hanner dydd, 08/09/2025

Cedwir at y dyddiad cau yn llym ac ni fydd unrhyw eithriadau.

Apply for this job