Menu

Cydlynydd Marchnata a Chynnwys Digidol / Marketing & Digital Content Coordinator

Job details
Posting date: 20 August 2025
Hours: Full time
Closing date: 09 September 2025
Location: LL57 2DG - option to spend some time working remotely which will be discussed further with candidates at interview.
Remote working: Hybrid - work remotely up to 2 days per week
Company: Bangor University
Job type: Permanent
Job reference: BU03856

Apply for this job

Summary

PRIFYSGOL BANGOR

UNDEB Y MYFYRWYR

Cydlynydd Marchnata a Chynnwys Digidol

(Cyf: BU03856)

Cyflog: £26,942 - £29,959 y flwyddyn (Graddfa 5)

Rydym yn chwilio am unigolyn deinamig, creadigol a brwdfrydig i weithio fel Cydlynydd Marchnata a Chynnwys Digidol yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor (Undeb Bangor).

Bydd deiliad y swydd yn ymuno â'r sefydliad ar adeg gyffrous iawn o ymgysylltu digidol ac ar-lein a bydd yn gyfrifol am sicrhau bod gwefan Undeb y Myfyrwyr a’i llwyfannau ar y cyfryngau digidol a chymdeithasol yn berthnasol, yn ymatebol ac yn afaelgar. Bydd yn arwain ar ddatblygu cyfathrebu a chynnwys digidol. Wedi'i addysgu i safon Lefel A (neu gyfwerth), bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am gynghori ynglŷn â datblygu negeseuon digidol Undeb y Myfyrwyr i sicrhau bod pob aelod yn ymwybodol o'r gwasanaethau a'r cyfleoedd a gynigir gan yr undeb a bydd yn arwain ar y gwaith o ddatblygu gwefan a system aelodaeth ar-lein yr undeb ynghyd â phob llwyfan digidol.

Bydd gan ymgeiswyr delfrydol brofiad o gydlynu ymgyrchoedd digidol effeithiol a sicrhau cymaint o sylw â phosib ar draws ystod o lwyfannau digidol, a phrofiad o weinyddu cynnwys gwefan. Bydd gan yr ymgeisydd hefyd brofiad o ddylunio deunydd hyrwyddo ar-lein a ffisegol, fel posteri, logos a thaflenni. Mae hon yn swydd mewn adran brysur a deinamig ac felly mae'n rhaid i ymgeiswyr feddu ar sgiliau cyfathrebu a threfnu rhagorol ynghyd â'r gallu i fod yn hyblyg ac addasu.

Bydd gan ymgeiswyr delfrydol brofiad o weithio mewn sefydliad amrywiol a bydd yn gallu ffynnu mewn amgylchedd prysur.

Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau yn y swydd barhaol hon mor fuan ag sydd yn rhesymol bosib.

Byddwch yn gweithio ar y campws ym Mangor. Trwy ein fframwaith Gweithio Deinamig, bydd dewis hefyd i dreulio peth amser yn gweithio o bell (er yn aros yn y Deyrnas Unedig) i gynnal cydbwysedd bywyd a gwaith. Caiff hynny ei drafod gyda’r ymgeiswyr yn y cyfweliad.

Ystyrir ceisiadau hefyd i wneud y swydd yn rhan-amser neu rannu’r swydd.

Derbynnir ceisiadau ar-lein yn unig, trwy ein gwefan recriwtio, jobs.bangor.ac.uk. Ond os cewch drafferth defnyddio’r wefan oherwydd anabledd, mae ffurflenni cais papur ar gael trwy ffonio 01248 383865.

Gellir gwneud ymholiadau anffurfiol trwy gysylltu â’r canlynol: Sharon Brown, Rheolwr Cyllid a Gweithrediadau, sharon.brown@undebbangor.com, ffôn: 01248 388012

Dyddiad cau derbyn ceisiadau: 09 Medi 2025

Wedi Ymrwymo i Gyfle Cyfartal

-------------------------------

BANGOR UNIVERSITY

STUDENT’S UNION

Marketing & Digital Content Coordinator

(Ref: BU03856)

Salary: £26,942 - £29,959 p.a. (Grade 5)

We are looking to recruit a dynamic, creative and enthusiastic individual to work as Marketing and Digital Content Coordinator at Bangor University Students’ Union (Undeb Bangor).

Joining the organisation at a very exciting time of digital and online engagement the post holder will be responsible for ensuring the Students’ Union website and digital and social media platforms are relevant, responsive and engaging. They will lead on the development of digital communications and content. Educated to A Level standard (or equivalent), the post holder will be responsible for advising on the development of Students’ Union digital communications to ensure that all members are aware of the services and opportunities offered by the SU and will take a lead on the development of the Union online membership system and website and all digital platforms.

The ideal candidate for this role will have previous experience of coordinating effective digital campaigns and maximising exposure across a range of digital platforms, and experience of website content administration. The candidate would also have experience with designing of online and physical promotions, such as posters, logos and flyers. The role sits within a busy and dynamic department and therefore candidates must have excellent communication and organisational skills with an ability to be flexible and adaptable.

The ideal candidate will have experience of working within a diverse organisation with the ability to flourish in a fast-paced environment.

The successful candidate will be expected to commence this permanent role as soon as reasonably possible.

This role will be located on campus at Bangor. Through our Dynamic Working framework, there will also be the option to spend some time working remotely (although remaining in the UK) to support work life balance, which will be discussed further with candidates at interview.

Applications will also be considered to carry out this role on a part-time or job share basis.

Applications will only be accepted via our on-line recruitment website, jobs.bangor.ac.uk. However, in cases of access issues due to disability, paper application forms are available by telephoning 01248 383865.

Informal enquiries can be made by contacting: Sharon Brown, Finance and Operations Manager, sharon.brown@undebbangor.com, tel. 01248 388012

Closing date for applications: 09 September 2025

Committed To Equal Opportunities

Apply for this job