Higher Level Teaching Assistant – Ysgol Bro Siôn Cwilt
Posting date: | 01 August 2025 |
---|---|
Salary: | £31,537 to £33,699 per year, pro rata |
Hours: | Part time |
Closing date: | 15 August 2025 |
Location: | Llandysul, Ceredigion |
Remote working: | On-site only |
Company: | Cyngor Sir Ceredigion County Council |
Job type: | Temporary |
Job reference: | REQ106162 |
Summary
Yn eisiau erbyn Medi 2025.
Ynglwn â’r rôl
Gwahoddir ceisiadau oddi wrth unigolion arloesol, brwdfrydig, egnïol ac ymroddgar i ymgeisio am swydd CALU rhan-amser a dros dro (i gychwyn) yn yr ysgol uchod. Bydd angen i’r Cynorthwyydd Addysgu Lefel Uwch (CALU) i weithio yn y dosbarth Meithrin. Mi fydd y gallu i weithio’n effeithiol fel rhan o dîm yn hanfodol a disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus gyfrannu i weithgareddau allgyrsiol a chymunedol.
Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus addysgu dosbarth llawn.
Mae’r gallu i gyfathrebu drwy’r Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol. Dylai ymgeiswyr feddu ar Lefel 4 CGC neu gymwysterau cyfatebol.
Am fwy o wybodaeth neu am sgwrs anffurfiol, mae croeso i chi gysylltu â’r Pennaeth Mrs Caryl Evans (01545 580 107) neu trwy e-bost ar: prif@sioncwilt.ceredigion.sch.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Proud member of the Disability Confident employer scheme