Cynorthwyydd Gweinyddol (Eiddo)
Posting date: | 28 July 2025 |
---|---|
Salary: | £22,780 to £24,531 per year |
Additional salary information: | Mae cynllun pensiwn cyfrannol hael ar gael |
Hours: | Full time |
Closing date: | 08 August 2025 |
Location: | Abergwili, Carmarthen |
Remote working: | On-site only |
Company: | St. Davids Diocesan Board Of Finance |
Job type: | Permanent |
Job reference: |
Summary
Ydych chi'n unigolyn trefnus a brwdfrydig sy'n dymuno gwneud cyfraniad ystyrlon mewn amgylchedd tîm cefnogol? Mae Bwrdd Cyllid Esgobaeth Tyddewi yn chwilio am Gynorthwyydd Gweinyddol diwyd i ymuno â'n tîm gweinyddol bach a chyfeillgar.
Mae hon yn rôl amrywiol a gwerth chweil lle bydd gennych ran allweddol yn y gwaith o sicrhau bod ein swyddfa yn gweithredu'n ddidrafferth o ddydd i ddydd, yn enwedig gwaith yr Adran Eiddo, a byddwch yn cefnogi gwaith ehangach yr Esgobaeth.
Dyma fyddwch chi’n ei wneud:
• Darparu cymorth gweinyddol cyffredinol gan ddefnyddio meddalwedd Microsoft Office
• Cymryd cofnodion cywir mewn amryw o wahanol gyfarfodydd a rheoli dyddiaduron yn effeithlon
• Cyfathrebu'n effeithiol ag amrywiaeth eang o ymwelwyr, pobl sy’n ffonio, a gohebwyr e-bost
• Ymdrin ag ymholiadau amrywiol (e.e. cyfleustodau, yswiriant, Asiantau Gosod, Awdurdodau Lleol, contractwyr) sy'n ymwneud ag eiddo, gan gynnwys ysgolion, adeiladau preswyl ac eiddo a lesir
• Cynorthwyo i gynnal Cronfa Ddata Eiddo yr Esgobaeth
Dyma fyddwn ni’n chwilio amdano:
• Rhywun sydd â phrofiad clir o gymryd cofnodion
• Rhywun sy'n aelod da o dîm gyda sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu rhagorol, sy'n llawn cymhelliant ac yn rhagweithiol
• Rhywun sydd â llygad craff am fanylion ac ymagwedd hyblyg at dasgau
• Rhywun sy'n hyderus yn defnyddio Microsoft Office ac wrth ymdrin ag amrywiaeth eang o ddyletswyddau gweinyddol
• Rhywun sydd ag empathi â chenhadaeth a gweinidogaeth yr Eglwys yng Nghymru
• Byddai rhywun sydd â'r gallu i siarad Cymraeg (neu barodrwydd i fynychu cwrs Cymraeg) yn ddymunol
Os ydych yn chwilio am rôl ystyrlon mewn amgylchedd cynnes a chroesawgar, a’ch bod yn mwynhau helpu eraill gan wneud i bethau weithredu'n ddidrafferth, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
I gael rhagor o wybodaeth neu i wneud cais, ewch i'n gwefan: https://stdavids.churchinwales.org.uk/cy/jobs/
NI FYDDWN YN DERBYN CEISIADAU CV.