Goruchwyliwr Bwyd a Diod
Posting date: | 25 July 2025 |
---|---|
Salary: | Not specified |
Additional salary information: | Yn uwch na'r Cyflog Byw Cenedlaethol |
Hours: | Full time |
Closing date: | 24 August 2025 |
Location: | LL49 9NF |
Remote working: | On-site only |
Company: | Festiniog Railway Company |
Job type: | Permanent |
Job reference: |
Summary
Rydym yn edrych am unigolyn brwdfrydig, gweithgar i arwain tîm ymroddedig o staff blaen tŷ sy’n gweithio yn Spooner’s.
Gallwn gynnig i chi:
• Cyflog cychwynnol uwchlaw'r Cyflog Byw Cenedlaethol, union swm yn dibynnu ar brofiad
• Cytundeb parhaol i gychwyn cyn gynted â phosibl
• Swydd llawn amser, lleiafswm o 30 awr yr wythnos
• Cyfwerth pro rata o 28 diwrnod o wyliau â thâl, gan gynnwys yr holl wyliau banc a chyhoeddus
• Ymrestriad i gynllun pensiwn y cwmni ar ôl cyfnod cymhwyso
• Cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant a chynnydd
• Manteision teithio ar Reilffyrdd Ffestiniog ac Eryri a gostyngiadau staff mewn siopau a chaffis.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio yng nghaffi a bar y siop arlwyo brysur hon; gwneud y mwyaf o elw a gwella safonau gwasanaeth cwsmeriaid. Ein nod yw darparu gwasanaeth a phrofiad eithriadol sy'n rhagori ar ddisgwyliadau ein cwsmeriaid. Yn y rôl hon bydd gofyn i chi oruchwylio tîm bach o Gynorthwywyr Bwyd a Diod ac arwain trwy esiampl, gweithio ar gownter neu far y caffi; a gweini cwsmeriaid wrth fyrddau yn ôl yr angen. Dylai fod gan ymgeiswyr brofiad profedig o weithio mewn amgylchedd arlwyo / lletygarwch. Safle blaen tŷ yw hwn felly mae'n rhaid bod gennych sgiliau cyfathrebu da a thueddiad cyfeillgar.
Dylai ymgeiswyr allu gweithio sifftiau yn ystod y dydd neu gyda'r nos; a rhaid iddo fod ar gael i weithio ar benwythnosau.
Sgiliau Craidd:
• Mae profiad mewn rôl Blaen Tŷ yn hanfodol
• Mae profiad o weith bar yn ddymunol
• Mae angen profiad o arwain neu oruchwylio
• Chwaraewr tîm
• Mae angen y gallu i ddirprwyo a rheoli eich amser eich hun yn effeithiol
• Sgiliau Cyfathrebu Da
• Yr gallu i weithio yn lân ac yn daclus
• Mae gwybodaeth a dealltwriaeth sylfaenol o hylendid bwyd a chegin yn ddymunol
• Byddai'r gallu i siarad Cymraeg o fantais fel y byddai gwybodaeth am y rheilffyrdd a'u teithwyr; a'r ardal leol.
Rhaid i ymgeiswyr am y swydd hon fod 18 oed neu drosodd a bod â'r hawl i weithio yn y DU ar hyn o bryd.
Proud member of the Disability Confident employer scheme